Pelenpwyl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: id:Polandball
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: mt:Polandball
Llinell 40: Llinell 40:
[[lo:ບານໂປໂລຍ]]
[[lo:ບານໂປໂລຍ]]
[[mg:Polandball]]
[[mg:Polandball]]
[[mt:Polandball]]
[[my:ပိုလန်ဘော]]
[[my:ပိုလန်ဘော]]
[[nah:Polandball]]
[[nah:Polandball]]

Fersiwn yn ôl 03:21, 16 Medi 2012

Gofal: Dilewyd yr erthygl gyfatebol Saesneg gan mai math o Ffŵl Ebrill yw gwrthrych yr erthygl hon ac nad lle gwyddoniadur yw ymdrin â materion fel hyn. Gweler yma. Awgrymir trafodaeth yn ei chylch ar y dudalen Sgwrs.
Pelenpwyl

Meme rhyngrwyd ar ffurf comics sy'n ceisio rhoi gwedd ddychanol a pherspectif gwahanol ar faterion rhyngwladol ydy Pelenpwyl (Saesneg: Polandball) neu Pelenwlad (Saesneg: countryball) sy'n mynd nôl i Awst 2009. Cynrycha'r sfferau gyda chymeriad dynol iddo wledydd arbennig gan ddefnyddio Saesneg carbwl.

Yn Awst 2009 cafwyd seibr-ryfel rhwng Pwyliaid a defnyddwyr o weddill y byd ar wefan drawball.com a oedd yn rhoi canfas glân i ddefnyddwyr dynnu llun digidol o unrhyw beth y dymunent. Cydweithiodd miloedd o Bwyliaid ar belen gyda baner Gwlad Pwyl arno ac enw'r wlad. Ond cydweithiodd gweddill y byd i orchuddio'r belen gyda swastica, gyda chymorth gwefan 4chan.[1][2]

Enghraifft o gomic polandball sy'n dychanu Estonia.

Er enghraifft, mae rhai o'r comics yn gwneud hwyl am y ffaith nad yw Gwlad Pwyl wedi cyrraedd y gofod, ond fod Rwsia wedi gwneud hynny ers talwm.

Pelenpwyl yn dychanu Lloegr

Ceir engreifftiau eraill o belipwyl: mae'r belenpwyl sy'n cynrychioli Lloegr yn gwisgo het sidan gyda chantel lydan (i gynrychioli John Bull, mae'n debyg) a chynrychiolir Israel gyda chiwb a Kazakhstan fel bricsen.[3]

Cyfeiriadau

  1. Orliński, Wojciech (16 Ionawr 2010). "Wyniosłe lol zaborców, czyli Polandball". Gazeta Wyborcza. Cyrchwyd 25 Mawrth 2012.
  2. Zapałowski, Radosław (15 Chwefror 2010). "Znowu lecą z nami w... kulki" (yn Pwyleg). Cooltura. Cyrchwyd 22 Mawrth 2012.
  3. "Int". Lurkmore.to. 26 December 2011. Cyrchwyd 27 Mawrth 2012.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: