Chartres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: mzn:شارتر |
TjBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: am:ሻርትረ |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
[[Categori:Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Ffrainc]] |
[[Categori:Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Ffrainc]] |
||
[[am:ሻርትረ]] |
|||
[[be:Горад Шартр]] |
[[be:Горад Шартр]] |
||
[[be-x-old:Шартр]] |
[[be-x-old:Шартр]] |
Fersiwn yn ôl 05:03, 14 Medi 2012
Dinas hanesyddol yng ngogledd Ffrainc yw Chartres, prifddinas département Eure-et-Loir, sy'n gorwedd 96 km i'r de-orllewin o ddinas Paris. Fe'i lleolir ar fryn ar lan Afon Eure.
Chartres oedd prif dref llwyth y Carnutes, ac yn y cyfnod Rhufeinig fe'i gelwid yn Autricum, o enw'r afon Autura (Eure), ac yna civitas Carnutum. Daw'r enw "Chartres" o enw'r Carnutes. Llosgwyd y ddinas gan y Normaniaid yn 858. Yn y Canol Oesoedd roedd yn brif dref adral Beauce. Cafodd ei chipio gan y Saeson yn 1417, ond fe'u gyrrwyd allan yn 1432. Yn ystod Rhyfeloedd Crefyddol Ffrainc, cipiwyd hi gan Henri IV yn 1591, a choronwyd ef yno dair blynedd yn ddiweddarach. Yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia, fe'i cipiwyd gan yr Almaenwyr yn 1870.
Adeilad pwysicaf y ddinas yw Eglwys Gadeiriol Chartres, sy'n cael ei hystyried yr enghraifft orau o Eglwys Gadeiriol yn yr arddull gothic yn Ffrainc, ac efallai yn y byd. Enwyd yr eglwys fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.