Tywysogaeth Catalwnia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: br:Katalonia |
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fr:Principauté de la Catalogne |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[eo:Princlando Katalunio]] |
[[eo:Princlando Katalunio]] |
||
[[es:Principado de Cataluña]] |
[[es:Principado de Cataluña]] |
||
[[fr:Principauté de la Catalogne]] |
|||
[[frp:Catalogne]] |
[[frp:Catalogne]] |
||
[[gl:Principado de Cataluña]] |
[[gl:Principado de Cataluña]] |
Fersiwn yn ôl 00:02, 11 Medi 2012
- Mae'r erthygl yma yn trafod Tywysogaeth hanesyddol Catalonia. Am y gynuned ymreolaethol bresennol, gweler Catalonia.
Tywysogaeth Catalonia (Catalaneg: Principat de Catalunya; Sbaeneg: Principado de Cataluña) yw tiriogaeth hanesyddol Catalonia, y rhan fwyaf yn yr hyn sy'n awr yn ogledd-ddwyrain Sbaen ond gyda rhan hefyd yn ne Ffrainc.
Wedi diwedd y cyfnod Rhufeinig, gorchfygwyd y tiriogaethau hyn gan y Fisigothiaid, yna am gyfnod gan fyddinoedd Mwslimiaid al-Andalus. Wedi i'r Mwslimiaid gael eu gorchfygu gan Siarl Martel ym Mrwydr Tours yn 732, concrwyd y tiriogaethau yng ngogledd Catalonia gan y Ffranciaid, a ffurfiodd Siarlymaen y Marca Hispanica, nifer o wladwriaethau bychain neu siroedd rhwng ymerodraeth y Ffranciaid ac al-Andalus. Roedd y rhain dan reolaeth Cownt Barcelona. Yn 987, gwrthododd Cownt Barcelona gydnabod y frenhinllin newydd ym mherson Hugh Capet, brenin Ffrainc, a daeth y Marca yn annibynnol ar y Ffranciaid i bob pwrpas. Yn 1137, daeth y dywysogaeth yn rhan o Goron Aragon, pan briododd Ramon Berenguer IV, Cownt Barcelona, a Petronila o Aragón.