Mawn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: gl:Turba
Zorrobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ka:ტორფი
Llinell 51: Llinell 51:
[[it:Torba]]
[[it:Torba]]
[[ja:泥炭]]
[[ja:泥炭]]
[[ka:ტორფი]]
[[ko:이탄]]
[[ko:이탄]]
[[lt:Durpės]]
[[lt:Durpės]]

Fersiwn yn ôl 09:05, 5 Medi 2012

Tomen o fawn wedi ei dorri yn Ness ar Ynys Leòdhas ar Ynysoedd Allanol Heledd.

Ffurfir mawn o weddillion planhigion dan amodau arbennig. Lle ceir cors ar dir asidig, y math mwyaf cyffredin ar gors yng Nghymru, mae mawn yn ffurfio. Ffurfir y mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Y planhigion sy'n cyfrannu fwyaf at ffurfio mawn yn Ewrop yw mwsogl Sphagnum.

Gellir cael mewn ar yr ucheldiroedd ac mewn rhai corsydd ar yr iseldiroedd. Mewn rhai corsydd ar dir isel, bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen. Defnyddir y term cyforgors am y rhain; esiamplau yw Cors Fochno a Chors Caron.

Ceir mawn ledled y byd lle mae'r amodau yn ffafriol iddo gael ei ffurfio. Mae mawnogydd yn gorchuddio tua 3% o arwynebedd y ddaear, 3,850,000 hyd 4,100,000 km². Gellir ei ddefnyddio fel tanwydd; er enghraifft mae torri mawn ar gyfer tanwydd yn bur gyffredin yn Y Ffindir, yng ngorllewin Iwerddon ac ar Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban. Ar un adeg roedd hyn yn gyffredin yng Nghymru hefyd.

Gellir hefyd ddefnyddio mawn at bwrpasau eraill, yn arbennig ar gyfer cynhyrchu compost ar gyfer garddio. Gan fod llawer o'r corsydd lle ceir mawn yn bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, mae pryder fod torri mawn ar raddfa fawr yn medru difrodi cynefinoedd.

Llyfryddiaeth

  • Owen, Trefor M. Torri mawn (Llyfrau llafar gwlad 17) (Gwasg Carreg Gwalch, 1990). ISBN 0-86381-161-2

Gweler hefyd

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol