Socrates: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ceb:Sócrates |
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: co:Socrate |
||
Llinell 43: | Llinell 43: | ||
[[ceb:Sócrates]] |
[[ceb:Sócrates]] |
||
[[ckb:سوقرات]] |
[[ckb:سوقرات]] |
||
[[co:Socrate]] |
|||
[[cs:Sókratés]] |
[[cs:Sókratés]] |
||
[[cu:Сѡкратъ]] |
[[cu:Сѡкратъ]] |
Fersiwn yn ôl 04:28, 5 Medi 2012
Gweler hefyd Sócrates
Athronydd cynnar a hynod ddylanwadol o Athen, gwlad Groeg, oedd Socrates (Groeg: Σωκράτης): ef yn ôl llawer a osododd sylfeini athroniaeth Orllewinol. Fe'i ganwyd oddeutu 470 CC, ac fe fu farw yn 399 CC yn Athen.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ymchwilio'n frwd i'r syniad o ddoethineb, trwy ddadlau a rhesymu gyda chyfeillion, disgyblion ac athronyddwyr yr oes. Ym mhen amser, daethpwyd i'w adnabod fel y dyn mwyaf doeth yng Ngroeg.
Roedd gan bobl farnau tra-gwahanol am Socrates: rhai yn uchel eu parch ohonno, eraill yn ei gollfarnu. Roedd ganddo ddilynwyr brwd (megis Platon), a gelynion ffyrnig yn ogystal.
Yn hen ddyn, fe syrthiodd i warth awdurdodau gwladwriaeth Athen. Fe'i gorchmynwyd i ymatal rhag ymddiddan cyhoeddus, ac i beidio ymwneud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer.
Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fe'i cyhuddwyd o lygru moes pobl ifanc, dyfeisio duwiau newydd, ac anffyddiaeth, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o hemloc.