Szczecin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: id:Szczecin |
Vagobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: az:Şetsin |
||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
[[ang:Stettin]] |
[[ang:Stettin]] |
||
[[ar:شتتين]] |
[[ar:شتتين]] |
||
[[az:Şetsin]] |
|||
[[be:Горад Шчэцін]] |
[[be:Горад Шчэцін]] |
||
[[be-x-old:Шчэцін]] |
[[be-x-old:Шчэцін]] |
Fersiwn yn ôl 13:12, 4 Medi 2012
Dinas yng ngogledd-orllewin Gwlad Pwyl a phrifddinas talaith Gorllewin Pomerania yw Szczecin (Almaeneg: Stettin). Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 407,260. Saif ar afon Oder, gyda chanol y ddinas ar y lan orllewinol. Er fod y môr 65 km i'r gogledd, mae llongau yn medru cyrraedd y ddinas, ac mae'n un o borthladdoedd pwysicaf Gwlad Pwyl. Mae hefyd yn ddinas brifysgol.
Szczecin oedd prifddinas tiriogaeth hanesyddol Pomerania. Yn y 5ed ganrif, roedd caer yma ar gyfer masnach rhwng y Llychlynwyr a chanolbarth Ewrop. Yn 1181 daeth y ddinas yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yn ddiweddarach yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd.
Daeth y ddinas yn eiddo brenin Sweden yn 1648 wedi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Yn 1721, gorfodwyd y Swediaid i ildio'r ddinas i deyrnas Prwsia, ac yn 1870, gyda gweddill Prwsia, daeth yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn 1945, wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd meddiant ar y ddinas i Wlad Pwyl.
Pobl enwog o Stettin/Szczecin
- Catrin Fawr, ymerodres Rwsia
- Karl Heinrich von Bötticher (1833-1907), gwladweinydd Prwsaidd
- Alfred Döblin (1878-1957), awdur Almaeneg