Ürümqi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: mzn:اورومچی |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: el:Ουρούμκι |
||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
[[da:Ürümqi]] |
[[da:Ürümqi]] |
||
[[de:Ürümqi]] |
[[de:Ürümqi]] |
||
[[el:Ουρούμκι]] |
|||
[[en:Ürümqi]] |
[[en:Ürümqi]] |
||
[[eo:Urumĉio]] |
[[eo:Urumĉio]] |
Fersiwn yn ôl 02:52, 3 Medi 2012
Ürümqi yw prifddinas Rhanbarth Ymreolaethol Xinjiang, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 2,082,000. O holl ddinasoedd y byd gyda phoblogaeth dros filiwn, Ürümqi yw'r bellaf o'r môr.
Yng nghyfnod Brenhinllin Qing a Gweriniaeth Tsieina, enw'r ddinas oedd Dinghua 迪化. Yn 1954, newidiwyd yr enw i Wulumuqi 乌鲁木齐市/Ürümqi. Ystyr Ürümqi yw "teml goch" mewn Mongoleg a "meysydd hyfryd" mewn Uighureg.
Ürümqi yw dinas fwyaf rhan orllewinol Tsieina. Mewnfudodd llawer o Tsineaid Han i'r ddinas yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r Uighur brodorol bellach yn lleiafrif yn y ddinas, er mai hwy yw'r grŵp ethnig mwyaf yn Xinjiang gyfan. Ym mis Gorffennaf 2009, bu ymladd ar strydoedd y ddinas rhwng y ddau grŵp ethnig, a chredir i rai cannoedd gael ei lladd.
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Xinjiang Uygur
- Marchnad y Nos
- Marchnad Erdaoqiao
- Plaza Zhong Tian
- Sgwâr y Bobol
- Sgwâr Nanhu