Integryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 8: Llinell 8:
==Integryn pendant==
==Integryn pendant==
[[Delwedd:Integral as region under curve.png|thumb|right|250px|Yr arwynebedd, ''S'', dan y graff yw'r integryn pendant, <math> \int_{a}^{b} f(x)\, dx </math>]]
[[Delwedd:Integral as region under curve.png|thumb|right|250px|Yr arwynebedd, ''S'', dan y graff yw'r integryn pendant, <math> \int_{a}^{b} f(x)\, dx </math>]]
Ystyriwch wrthrych sy'n teithio ar [[buanedd|fuanedd]] cyson. Gellir darganfod y pellter a deithiwyd ar ôl rhyw amser ''x'' drwy luosi'r buanedd gyda'r [[amser]]. Ystyriwch yn awr wrthrych sy'n teithio ar fuanedd anghyson, ''f''. Ar y graff ar y dde, ''y'' = ''f'', ''x'' yw amser, ac ardal ''S'' yw'r pellter a deithiwyd yn ystod y cyfnod ''b'' - ''a''. Nid yw lluosi ''f'' gyda'r cyfnod o amser yn ddigonol i ddarganfod y pellter a deithiwyd gan fod y buanedd yn newid o un eiliad i'r llall. Fodd bynnag gallem rannu'r cyfnod o amser i mewn i ysbeidiau bach hafal, ''δx''. Yna gallem luosi pob ysbaid ''δx'' gydag un o'r buaneddau ''f'' yn ei ystod. Yn olaf er mwyn cael bras amcan o'r pellter ''S'' a deithiwyd gallem adio i fyny'r cynyddrannau pellter ''f'' * ''δx'':
Ystyriwch wrthrych sy'n teithio ar [[buanedd|fuanedd]] cyson. Gellir darganfod y pellter a deithiwyd ar ôl rhyw amser ''x'' drwy luosi'r buanedd gyda'r [[amser]]. Ystyriwch yn awr wrthrych sy'n teithio ar fuanedd anghyson, ''f''. Ar y graff ar y dde, ''y'' = ''f'', ''x'' yw amser, ac ardal ''S'' yw'r pellter a deithiwyd yn ystod y cyfnod ''b'' - ''a''. Nid yw lluosi syml yn ddigonol i ddarganfod y pellter a deithiwyd gan fod y buanedd yn newid o un eiliad i'r llall. Fodd bynnag gallem rannu'r cyfnod o amser i mewn i ysbeidiau bach hafal, ''δx''. Yna gallem luosi pob ysbaid ''δx'' gydag un o'r buaneddau ''f'' yn ei ystod. Yn olaf er mwyn cael bras amcan o'r pellter ''S'' a deithiwyd gallem adio i fyny'r cynyddrannau pellter ''f'' * ''δx'':


<math> S \approx \sum f\ \delta x. </math>
<math> S \approx \sum f\ \delta x. </math>

Fersiwn yn ôl 00:08, 3 Medi 2012

Un o brif gysyniadau'r calcwlws yw integryn. Pwrpas integreiddio rhifiadol yw i ddod o hyd i ardal o dan y gromlin rhwng dau bwynt diwedd. Hynny yw y gallu i werthuso

lle mae a a b cael eu rhoi ac mae f yn ffwythiant a roddwyd yn ddadansoddol neu fel tabl o werthoedd.

Integryn pendant

Yr arwynebedd, S, dan y graff yw'r integryn pendant,

Ystyriwch wrthrych sy'n teithio ar fuanedd cyson. Gellir darganfod y pellter a deithiwyd ar ôl rhyw amser x drwy luosi'r buanedd gyda'r amser. Ystyriwch yn awr wrthrych sy'n teithio ar fuanedd anghyson, f. Ar y graff ar y dde, y = f, x yw amser, ac ardal S yw'r pellter a deithiwyd yn ystod y cyfnod b - a. Nid yw lluosi syml yn ddigonol i ddarganfod y pellter a deithiwyd gan fod y buanedd yn newid o un eiliad i'r llall. Fodd bynnag gallem rannu'r cyfnod o amser i mewn i ysbeidiau bach hafal, δx. Yna gallem luosi pob ysbaid δx gydag un o'r buaneddau f yn ei ystod. Yn olaf er mwyn cael bras amcan o'r pellter S a deithiwyd gallem adio i fyny'r cynyddrannau pellter f * δx:

Er mwyn gwella'r bras amcan gellir rhannu'r cyfnod o amser i mewn i ysbeidiau δx llai ac ail adrodd y broses. Wrth i δx agosáu at 0, mae'r swm uchod yn agosáu at derfan sy'n hafal i'r pellter a deithiwyd. Yr integryn yw'r derfan hon ble mae f yn ffwythiant o x ac N yw nifer yr ysbeidiau:

ble

Mae'r derfan uchod yn ddiffiniad o'r gweithrediad rhifadol sy'n rhoi integryn y ffwythiant f(x). Fodd bynnag o ganlyniad i ddamcaniaeth sylfaenol calcwlws a ddarganfyddwyd gan Isaac Newton a Gottfried Wilhelm Leibniz yn y 1670au gellir cyfrifo'r integryn pendant drwy werthuso gwrthddifferiadau:

ble

Integryn amhendant

Mae integryn amhendant yn ffwythiant gyda'r gwerth canlynol ar bob pwynt x:

lle mae a yn gysonyn, annibynnol o x.

Ysgrifennir yr integryn amhendant yn gyffredin fel:

Gwrthdro deilliad ydy integryn ac felly os cyfrifir deilliad integryn, y ffwythiant gwreiddiol yw'r canlyniad.

Os mae g(x) yn integryn (amhendant) f(x), mae g(x)+C hefyd yn integryn (amhendant) f(x) ar gyfer pob cysonyn C annibynnol o x. Nid un ffwythiant yw integryn amhendant, felly, eithr set o ffwythiannau, a wahanir gan adio cysonyn. Er enghraifft, rhoddir yr integryn amhendant o'r mynegiad polynomaidd gan:

Mae gan bolynomialau ffurf eithaf syml ar eu hintegrynnau, felly fe'u defnyddir yn gyffredin mewn addysg Brydeinig fel enghreifftiau syml i gyflwyni'r pwnc.

Ysgrifennu'r symbol ar gyfrifaduron

Côd ar gyfer y symbol ∫ yw 222B hecsadegol yn Unicode; gellir ei ysgrifennu fel &int; yn HTML.