Integryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
tabl o werthoedd.
tabl o werthoedd.

==Integryn pendant==

[[Delwedd:Integral as region under curve.png|thumb|right|250px|Yr arwynebedd, ''S'', dan y graff yw'r integryn pendant, <math> \int_{a}^{b} f(x)\, dx </math>]]
[[Delwedd:Integral as region under curve.png|thumb|right|250px|Yr arwynebedd, ''S'', dan y graff yw'r integryn pendant, <math> \int_{a}^{b} f(x)\, dx </math>]]

==Integryn pendant==
Ystyriwch wrthrych sy'n teithio ar [[buanedd|fuanedd]] cyson. Gellir darganfod y pellter a deithiwyd ar ôl rhyw amser ''x'' drwy luosi'r buanedd gyda'r amser. Ystyriwch yn awr wrthrych sy'n teithio ar fuanedd anghyson, ''f''. Ar y graff ar y dde, ''y'' = ''f'', ''x'' yw amser, ac ''S'' yw'r pellter a deithiwyd yn ystod y cyfnod ''b'' - ''a''. Nid yw lluosi ''f'' gyda ''x'' yn ddigonol i ddarganfod y pellter a deithiwyd gan fod y buanedd yn newid o un eiliad i'r llall. Fodd bynnag gallem rannu'r cyfnod o amser i mewn i gynyddrannau bach ''δx''. Yna ar gyfer pob cynyddran amser ''δx'' gallem luosi un o'r buenydd ''f'' yn ei ystod gyda ''δx''. Yn olaf er mwyn cael bras amcan o'r pellter ''S'' a deithiwyd yn ystod y cyfnod amser gallem adio i fynny'r cynyddrannau pellter ''f'' * ''δx'':

Llinell 27: Llinell 25:

==Integryn amhendant==
==Integryn amhendant==
Mae '''integryn amhendant''' yn ffwythiant gyda'r gwerth canlynol ar bob pwynt ''x'':
Mae integryn amhendant yn ffwythiant gyda'r gwerth canlynol ar bob pwynt ''x'':

:<math> \int_{a}^{x} f(x)\, dx </math>
:<math> \int_{a}^{x} f(x)\, dx </math>

Fersiwn yn ôl 22:04, 2 Medi 2012

Un o brif gysyniadau'r calcwlws yw integryn. Pwrpas integreiddio rhifiadol yw i ddod o hyd i ardal o dan y gromlin rhwng dau bwynt diwedd. Hynny yw y gallu i werthuso

lle mae a a b cael eu rhoi ac mae f yn ffwythiant a roddwyd yn ddadansoddol neu fel tabl o werthoedd.

Integryn pendant

Yr arwynebedd, S, dan y graff yw'r integryn pendant,

Ystyriwch wrthrych sy'n teithio ar fuanedd cyson. Gellir darganfod y pellter a deithiwyd ar ôl rhyw amser x drwy luosi'r buanedd gyda'r amser. Ystyriwch yn awr wrthrych sy'n teithio ar fuanedd anghyson, f. Ar y graff ar y dde, y = f, x yw amser, ac S yw'r pellter a deithiwyd yn ystod y cyfnod b - a. Nid yw lluosi f gyda x yn ddigonol i ddarganfod y pellter a deithiwyd gan fod y buanedd yn newid o un eiliad i'r llall. Fodd bynnag gallem rannu'r cyfnod o amser i mewn i gynyddrannau bach δx. Yna ar gyfer pob cynyddran amser δx gallem luosi un o'r buenydd f yn ei ystod gyda δx. Yn olaf er mwyn cael bras amcan o'r pellter S a deithiwyd yn ystod y cyfnod amser gallem adio i fynny'r cynyddrannau pellter f * δx:

Er mwyn gwella'r bras amcan gellir rhannu'r cyfnod o amser i mewn i gynyddrannau δx llai ac ail adrodd y broses. Wrth i δx agosáu at 0, mae'r swm uchod yn agosáu at derfan sy'n hafal i'r pellter a deithiwyd. Yr integryn yw'r derfan hon ble mae f yn ffwythiant o x ac N yw nifer y cynyddrannau:

ble

Mae'r derfan uchod yn ddiffiniad o'r broses rifadol sy'n rhoi'r integryn o ryw ffwythiant f(x), ond o ganlyniad i ddamcaniaeth sylfaenol calcwlws gellir gwerthuso'r integryn pendant drwy gyfrifo gwrthddifferiadau:

ble

Integryn amhendant

Mae integryn amhendant yn ffwythiant gyda'r gwerth canlynol ar bob pwynt x:

lle mae a yn gysonyn, annibynnol o x.

Ysgrifennir yr integryn amhendant yn gyffredin fel:

Gwrthdro deilliad ydy integryn ac felly os cyfrifir deilliad integryn, y ffwythiant gwreiddiol yw'r canlyniad.

Os mae g(x) yn integryn (amhendant) f(x), mae g(x)+C hefyd yn integryn (amhendant) f(x) ar gyfer pob cysonyn C annibynnol o x. Nid un ffwythiant yw integryn amhendant, felly, eithr set o ffwythiannau, a wahanir gan adio cysonyn. Er enghraifft, rhoddir yr integryn amhendant o'r mynegiad polynomaidd gan:

Mae gan bolynomialau ffurf eithaf syml ar eu hintegrynnau, felly fe'u defnyddir yn gyffredin mewn addysg Brydeinig fel enghreifftiau syml i gyflwyni'r pwnc.

Ysgrifennu'r symbol ar gyfrifaduron

Côd ar gyfer y symbol ∫ yw 222B hecsadegol yn Unicode; gellir ei ysgrifennu fel &int; yn HTML.