Muammar al-Gaddafi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Idris
Zorrobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn newid: tt:Мөәммәр әл-Каддафи
Llinell 120: Llinell 120:
[[tl:Muammar Gaddafi]]
[[tl:Muammar Gaddafi]]
[[tr:Muammer Kaddafi]]
[[tr:Muammer Kaddafi]]
[[tt:Мөәммәр Каддафи]]
[[tt:Мөәммәр әл-Каддафи]]
[[ug:مۇھەممەر قەززافى]]
[[ug:مۇھەممەر قەززافى]]
[[uk:Муаммар Каддафі]]
[[uk:Муаммар Каддафі]]

Fersiwn yn ôl 07:05, 1 Medi 2012

Gadaffi (2009).

Arweinydd Libya oedd Muammar Abu Minyar al-Gaddafi (7 Mehefin 194220 Hydref 2011), neu'r Milwriad Gaddafi (Arabeg : معمر القذافي, Muʿammar Al-Qaḏâfî ; ceir sawl ffurf arall ar ei enw wedi'i drawslythrennu o'r Arabeg).

Cafodd ei eni yn Sirt, Libya. Ef oedd arweinydd de facto Libya er 1970 yn sgîl gwrthdroi'r llywodraeth yn 1969 mewn coup d'état a ddiorseddodd y Brenin Idris. Nid yw'n dal swydd wleidyddol fel y cyfryw, gan adael gwleidyddion eraill i fod yn arlywydd a gweinidogion swyddogol, ac mae'n cael ei adnabod fel "Tywysydd Chwyldro Mawr Gweriniaeth Boblogaidd Sosialaidd Arabaidd Fawr Libya" neu "y Brawd-dywysydd". Fel arweinydd mae Gadaffi wedi cynnig "trydydd lwybr" i'r gwledydd sy'n datblygu a'r byd Arabaidd, athroniaeth a geir yn ei lyfr adnabyddus Y Llyfr Gwyrdd.

Gwrthryfel 2011

Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â'r unben Gaddafi. Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw. Anerchodd y dorf sawl gwaith i geisio eu tawelu. Bu farw Gaddafi yn ei ddinas enedigol, Sirt, yn dilyn ymladd rhwng y ddwy ochr. Bu farw ei fab Moatassem Gaddafi yn y frwydr hon.


Eginyn erthygl sydd uchod am Libia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato