Antiochia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Robbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: it:Antiochia di Siria
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: arc:ܐܢܛܝܘܟܝܐ
Llinell 22: Llinell 22:
[[Categori:Yr Ymerodraeth Fysantaidd]]
[[Categori:Yr Ymerodraeth Fysantaidd]]


[[arc:ܐܢܛܝܘܟܝܐ]]
[[bg:Антиохия]]
[[bg:Антиохия]]
[[bs:Antiohija#Historija]]
[[bs:Antiohija#Historija]]

Fersiwn yn ôl 13:09, 31 Awst 2012

Muriau Antiochia yn dringo Mons Silpius yng nghyfnod y Croesgadau)

Roedd Antiochia ar yr Orontes (Groeg: Αντιόχεια η επί Δάφνη, Αντιόχεια η επί Ορόντου neu Αντιόχεια η Μεγάλη; Lladin: Antiochia ad Orontem; yn ddinas ar lan ddwyreiniol Afon Orontes, ar safle dinas fodern Antakya, yn ne-orllewin Twrci.

Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y 4edd ganrif CC gan Seleucus I Nicator, un o gadfridogion Alecsander Fawr. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer Xenarius i efelychu dinas Alexandria. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn brifddinas yr Ymerodraeth Seleucaidd, yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwyrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad Cristionogaeth.

Yn ystod oes aur y ddinas tua diwedd y cyfnod Hellenistaidd a dechrau'r cyfnod Rhufeinig, roedd ei phoblogaeth wedi cyrraedd tua 500,000; y drydedd dinas yn y byd ar ôl Rhufain ac Alexandria. Erbyn y 4edd ganrif, yn ôl Chrysostom roedd y boblogaeth wedi lleihau i tua 200,00. Nid yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys caethweision.

Yn ddiweddarach bu ymgiprys am y ddinas rhwng yr Arabiaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Bu gwarchae hir ar y ddinas yn ystod y Groesgad Gyntaf, a daeth Bohemund, tywysog Taranto, yn arglwydd y ddinas. Cipiwyd y ddinas yn ôl yn 1268 gan y Swltan Mamluk Baibars wedi gwarchae hir arall. Lladdodd Baibars lawer o'r boblogaeth Gristionogol, a rhwng hyn a'r ffaith fod y porthladd erbyn hyn allan o gyrraedd llongau mawr, dirywiodd y ddinas.

Enwogion