Garn Boduan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Y copa: update reference web site
DSisyphBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: en:Garn Boduan
Llinell 75: Llinell 75:
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Gwynedd]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Gwynedd]]
[[Categori:Copaon Marilyn]]
[[Categori:Copaon Marilyn]]

[[en:Garn Boduan]]

Fersiwn yn ôl 09:43, 28 Awst 2012

Garn Boduan

(Penrhyn Llŷn)
Copa Garn Boduan gyda'r cytiau crynion o fewn y fryngaer
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Copa Garn Boduan gyda'r cytiau crynion o fewn y fryngaer
Uchder (m) 279
Uchder (tr) 915
Amlygrwydd (m) 172
Lleoliad Pen Llŷn
Map topograffig Landranger 123;
Explorer 253
Cyfesurynnau OS SH312393
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd)
Garn Boduan is located in Cymru
Garn Boduan (Cymru)

Bryn 280 metr o uchder gerllaw Nefyn ar Benrhyn Llŷn, Gwynedd, yw Garn Boduan a bryngaer o Oes yr Haearn ar ei chopa (cyfeiriad grid SH310392). Mae'r gaer yn un o'r rhai mwyaf yng Nghymru gydag arwynebedd o tua deg hectar;[1] cyfeiriad grid SH312393. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 107metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Gellir cyrraedd Garn Boduan trwy ddilyn llwybr oddi ar y B4354, rhyw 300 metr o'r briffordd A497.

Y copa

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 279m (915tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.


Y fryngaer

Bryngaer Garn Boduan
Bryngaer Garn Boduan
Bryngaer Garn Boduan, Buan

Mae'r Garn, hefyd, yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Buan yn Gwynedd, Cymru; cyfeirnod OS: SH313393.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN009. [3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. O ran cynllun mae'n weddol debyg i Tre'r Ceiri gerllaw, gyda muriau cerrig yn amgylchynu arwynebedd o tua 10 hectar. Tu mewn i'r muriau mae gweddillion o leiaf 170 o dai crwn. Ar yr ochr ddwyreiniol mae caer fechan arall a allai fod yn ddiweddarach o ran dyddiad.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar. [6]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd

Dolennau allanol

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1