Brwydr Plassey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: krc:Плессиде сермешиу |
Paelius (sgwrs | cyfraniadau) B iw fix |
||
Llinell 36: | Llinell 36: | ||
[[no:Slaget ved Plassey]] |
[[no:Slaget ved Plassey]] |
||
[[oc:Batalha de Plassey]] |
[[oc:Batalha de Plassey]] |
||
[[pl:Bitwa pod |
[[pl:Bitwa pod Palasi]] |
||
[[pnb:جنگ پلاسی]] |
[[pnb:جنگ پلاسی]] |
||
[[ru:Битва при Плесси]] |
[[ru:Битва при Плесси]] |
Fersiwn yn ôl 14:48, 27 Awst 2012
Ymladdwyd Brwydr Plassey ar 23 Mehefin, 1757, ger tref Plassey ym Mengal, gogledd-ddwyrain India. Curodd y lluoedd Prydeinig dan y cadfridog Robert Clive ("Cllive o India") fyddin Surajah Dowlah, Nawab Bengal.
Roedd y nawab ac eraill wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Prydeinwyr a Chwmni Dwyrain India gan gipio Calcutta. Ail-gipiodd Clive y ddinas honno, lle carcharwyd tua chant o bobl yn y "Twll Du" enwog, o ddwylo'r gwrthryfelwyr cyn mynd yn ei flaen i gwrdd â'r gwrthryfelwyr ger Plassey. Un o'r rhesymau am ei fuddugoliaeth oedd brad rhai o gadfridogion y nawab dan arweinyddiaeth Mir Jafar a aethant drosodd i'r ochr fuddugol yn ystod y frwydr.
Canlyniad pwysicaf y frwydr oedd cadarnhau ac ymestyn rheolaeth Prydain ar ddwyrain India, yn wyneb cystadleuaeth gan Ffrainc (roedd Prydain a Ffrainc yn ymladd y Rhyfel Saith Mlynedd yn Ewrop yr adeg honno yn ogystal). Gosodwyd un o gonglfeini'r Ymerodraeth Brydeinig, sef reolaeth ar is-gyfandir India i gyd erbyn diwedd y 18fed ganrif.