Boda tinwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ar:مرزة الدجاج
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: et:Välja-loorkull
Llinell 41: Llinell 41:
[[eo:Blua cirkuo]]
[[eo:Blua cirkuo]]
[[es:Circus cyaneus]]
[[es:Circus cyaneus]]
[[et:Välja-loorkull]]
[[eu:Mirotz zuri]]
[[eu:Mirotz zuri]]
[[fa:قوش غارتگر]]
[[fa:قوش غارتگر]]

Fersiwn yn ôl 20:27, 23 Awst 2012

Boda Tinwyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Circus
Rhywogaeth: C. cyaneus
Enw deuenwol
Circus cyaneus
(Linnaeus, 1766)

Mae'r Boda Tinwyn (Circus cyaneus ) yn aderyn rheibiol sy'n nythu trwy'r rhannau gogledd o Ewrop, Asia a Gogledd America.

Yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd lle mae'n nythu, mae'r Boda Tinwyn yn aderyn mudol, ond mewn rhai gwledydd lle nad yw'r gaeafau mor oer, megis Ffrainc ac Ynysoedd Prydain mae'n aros trwy'r flwyddyn. Mae'n nythu ar dir agored, yn aml ar yr ucheldiroedd. Ar lawr y mae'n adeiladu'r nyth, ac mae'n dodwy o bedwar i chwech wy.

Dosbarthiad y Boda Tinwyn

Mae'r ceiliog yn aderyn hawdd ei adnabod, gyda'r rhan fwyaf o'r plu yn llwyd ay y cefn a rhan uchaf yr adenydd a blaen yr adenydd yn ddu, gyda darn gwyn uwchben y gynffon. Brown yw lliw yr iâr, ond gyda'r darn gwyn uwchben y gynffon sy'n rhoi ei enw i'r aderyn. Gellir ei weld yn aml yn hedfan yn isel dros dir agored gan ddav yr adenydd mewn ffurf V. Eu brif fwyd yw mamaliaid bychain ac adar.

Gan fod y Boda Tinwyn yn aml yn nythu ar rostiroedd gyda grug sy'n cael eu defnyddio ar gyfer saethu'r Grugiar, a bod yr aderyn weithiau'n bwyta grugieir ieuanc, mae yn aml yn cael ei saethu gan giperiaid, er bod deddfau yn ei warchod yn y rhan fwyaf o wledydd. Efallai oherwydd hyn, nid yw'n aderyn cyffredin iawn. Mae tua 40 - 50 pâr yn nythu yng Nghymru, ac mae'r nifer wedi cynyddu yn ddiweddar.