Lawnslot: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ro:Lancelot |
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: vi:Lancelot |
||
Llinell 47: | Llinell 47: | ||
[[tr:Lancelot]] |
[[tr:Lancelot]] |
||
[[uk:Ланселот]] |
[[uk:Ланселот]] |
||
[[vi:Lancelot]] |
|||
[[zh:兰斯洛特爵士]] |
[[zh:兰斯洛特爵士]] |
Fersiwn yn ôl 20:50, 21 Awst 2012
Un o farchogion y brenin Arthur yn y chwedlau Ffrengig a Seisnig amdano yw Lawnslot neu Lancelot. Yn y rhain, gelwir ef yn aml yn Lancelot du Lac, ac fel rheol ef yw'r pennaf o farchogion y Ford Gron. Nid yw'n ymddangos yn y chwedlau Cymreig cynnar am Arthur.
Daeth Lawnslot yn adnabyddus trwy waith Chrétien de Troyes, Lancelot ou le Chevalier de la charrette, a ysgrifenwyd rhwng 1177 a 1181. Ffynhonnell bwysig arall oedd y Lawnslot-Greal, gwaith Ffrangeg o ddechrau'r 13eg ganrif.
Dywedir ei fod yn dod o Lydaw ac yn fab i'r brenin Ban o Benioic, sydd a chastell ger llyn yng nghanol Fforest Broseliawnd. Mae Hector de Maris yn hanner brawd iddo, a'r brenin Bors yn ewythr. Lawnslot yw tad Galahad, un arall o farchogion Arthur.
Yn y fersiynau diweddarach o chwedlau Arthur, cymer Lawnslot ran yn yr ymchwil am y Greal Santaidd, ond gan nad yw'n ddigon pur, dim ond cip ar y Greal a gaiff. Mae Lawnslot yn cynnal carwriaeth a'r frenhines Gwenhwyfar, ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at Frwydr Camlan a dinistr y deyrnas.
Credai R. S. Loomis fod cymeriad Lawnslot wedi datblygu o gymeriad Lloch Llawwynnyawc neu Llenlleawg sy'n ymddangos yn chwedl Culhwch ac Olwen ac mewn rhai cerddi cynnar, Pa Gwr yw y porthor a Preiddeu Annwfn, a chredai fod cysylltiad rhyngddo a Lleu Llaw Gyffes a'r duwiau Celtaidd Lugh neu Lugus, ond nid yw'r mwyafrif o ysgolheigion yn derbyn hyn.
Yn y ffilm King Arthur (2004), mae Ioan Gruffudd yn chwarae rhan Lawnslot.