Camelot: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: la:Camelot |
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: vi:Lancelot |
||
Llinell 48: | Llinell 48: | ||
[[tr:Camelot]] |
[[tr:Camelot]] |
||
[[uk:Камелот]] |
[[uk:Камелот]] |
||
[[vi:Lancelot]] |
|||
[[zh:卡美洛]] |
[[zh:卡美洛]] |
Fersiwn yn ôl 20:27, 21 Awst 2012
Camelot yw castell neu lys y brenin Arthur yn y chwedlau Ffrengig a Seisnig amdano. Nid yw'n ymddangos yn y chwedlau Cymraeg cynnar, lle lleolir prif lys Arthur y Gelliwig yn Nghernyw, er enghraifft yn Culhwch ac Olwen. Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion ar Wysg oedd prif lys Arthur, a dilynwyd ef gan lawer o weithiau diweddarach.
Ceir y sôn cyntaf am Camelot yng ngwaith Chrétien de Troyes yn yr 1170au:
- A un jor d'une Acenssion / Fu venuz de vers Carlion / Li rois Artus et tenu ot / Cort molt riche a Camaalot / Si riche com au jor estut. [1]
- "Ar Ddydd Esgyniad, roedd y brenin Arthur wedi dod o Gaerllion, a chynhaliodd lys gwych yng Nghamelot, fel y gweddai i'r diwrnod".
Yn y 13eg ganrif, Camelot oedd prif lys Arthur mewn gweithiau Ffrangeg megis y Lawnslot-Greal, a dilynwyd hyn gan Thomas Malory yn ei Le Morte d'Arthur o ddiwedd y 15fed ganrif, er bod yn well gan olygydd Malory, William Caxton, leoliad yng Nghymru.
Credai Malory mai Caerwynt oedd Camelot. Yn 1542, adroddodd yr hynafiaethydd John Leland fod y bobl leol o amgylch Cadbury Castle yng Ngwlad yr Haf yn credu mai hwnnw oedd y Camelot gwreiddiol. Bu cloddio archaeolegol yno dan Leslie Alcock yn 1966-70, a chafwyd hyd i lawer o olion o tua'r 6ed ganrif.