Jørgen Engebretsen Moe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 20: Llinell 20:
*Eirwen Shelbourne (cyf.), ''Chwedlau Norwy'' (Llandybïe, 1970)
*Eirwen Shelbourne (cyf.), ''Chwedlau Norwy'' (Llandybïe, 1970)


[[Categori:Beirdd Norwyeg|Moe, Jørgen Engebretsen]]

[[Categori:Llenyddiaeth Norwyeg|Moe, Jørgen Engebretsen]]
[[Categori:Llenyddiaeth Norwyeg|Moe, Jørgen Engebretsen]]
[[Categori:Llên gwerin Norwy|Moe, Jørgen Engebretsen]]
[[Categori:Llên gwerin Norwy|Moe, Jørgen Engebretsen]]

Fersiwn yn ôl 18:51, 26 Mawrth 2007

Jørgen Moe
Clawr argraffiad 1878 o Norske folke og huldre-eventyr

Roedd Jørgen Engebretsen Moe (1813 - 1882) yn arbenigwr llên gwerin a bardd o Norwy. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n esgob Christiansand o 1875 hyd 1881.

Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, Ringerike. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd.

Gyda Peter Christian Asbjørnsen, ei hen ffrind ysgol, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau llên gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr.

Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o gerddi rhamantaidd yn 1850, ynghyd â chlasur o gyfrol i blant, I brønden og i kjœrnet (1851).

Roedd mab Jørgen Moe, Moltke, yn arbenigwr llên gwerin o fri, athro llên gwerin cyntaf Priyfysgol Christiana.

Llyfryddiaeth

Cyfieithiwyd detholiad da o chwedlau Moe ac Asbjørnsen i'r Saesneg gan Pat Shaw Iversen a Carl Norman, gyda'r lluniau gan Erik Werenskiold a Theodor Kittelsen o'r argraffiad Norwyaidd poblogaidd a gyhoeddwyd yn 1878:

  • Norwegian Folk Tales (Dreyers Forlag, Oslo, 1978)

Yn Gymraeg ceir addasiadau o rai o'r chwedlau yn,

  • Eirwen Shelbourne (cyf.), Chwedlau Norwy (Llandybïe, 1970)