Raffaello Sanzio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: diq:Rafaello Sanzio
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ckb:ڕافایێل
Llinell 43: Llinell 43:
[[bs:Raffaello Santi]]
[[bs:Raffaello Santi]]
[[ca:Raffaello Sanzio]]
[[ca:Raffaello Sanzio]]
[[ckb:ڕافایێل]]
[[cs:Rafael Santi]]
[[cs:Rafael Santi]]
[[da:Raffaello Santi]]
[[da:Raffaello Santi]]

Fersiwn yn ôl 20:50, 11 Awst 2012

Hunanbortread gan Raffael.

Arlunydd a phensaer Eidalaidd oedd Raffaello Sanzio, weithiau Raffaello Santi, a adwaenir fel rheol fel Raffael (28 Mawrth neu 6 Ebrill 14836 Ebrill, 1520). Ystyrir ef, gyda Michelangelo a Leonardo da Vinci, un un o'r triawd o feistri o'r cyfnod yma yn yr Eidal. Er iddo farw yn gynharol ieuanc, yn 37 oed, roedd yn arlunydd cynhyrchiol iawn, ac mae llawer o'i waith wedi ei gadw, yn enwedig yn y Fatican.

Ganed ef yn Urbino yng nghanolbarth yr Eidal. Roedd ei dad, Giovanni Santi, yn arlunydd i Ddug Urbino. Bu farw ei fam, Màgia, yn 1491, a'i dad yn 1494. Rhwng 1504 a 1508 bu'n astudio a gweithio yn Fflorens, cyn treulio ei ddeuddeg mlynedd olaf yn Rhufain, lle bu'n gweithio i ddau Bab.