Sarat Chandra Das: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: zh:萨拉特·钱德拉·达斯
Llinell 30: Llinell 30:
[[nl:Sarat Chandra Das]]
[[nl:Sarat Chandra Das]]
[[ru:Сарат Чандра Дас]]
[[ru:Сарат Чандра Дас]]
[[zh:萨拉特·钱德拉·达斯]]

Fersiwn yn ôl 15:56, 10 Awst 2012

Sarat Chandra Das

Ysgolhaig o India a arbenigai ar yr iaith Tibeteg a hanes a diwylliant Tibet oedd Sarat Chandra Das (1849 - 1917)

Gweithiodd Das fel ysbïwr i'r Prydeinwyr ar adeg pan roedd Rwsia, China a Phrydain yn chwarae'r "Gêm Fawr" am ddylanwad a rheolaeth yng nghanolbarth Asia a Thibet. Ymwelodd â Lhasa i gasglu gwybodaeth am y sefyllfa yno. Ond roedd gan Das resymau personol a phroffesiynol am ei ymweliad hefyd, gan ei weld fel cyfle euraidd i ddysgu chwaneg am iaith a diwylliant Tibet. Ar ôl dychwelyd, ymsefydlodd Das yn Darjeeling, lle daeth yn brifathro Ysgol Breswyl Bhutia. Daeth yn ffigwr adnabyddus yn y brynfa. Enwodd ei gartref yn 'Lhasa Villa' a chafodd sawl ymweliad gan ysgolheigion yn cynnwys Syr Charles Alfred Bell, Ekai Kawaguchi ac Evans-Wentz. Ysgrifennodd am ei deithau yn Nhibet, ond ei brif weithiau ysgolheigaidd yw ei Tibetan-English Dictionary swmpus, a gyhoeddwyd yn 1902, a'i ramadeg Tibeteg.

Llyfryddiaeth

  • Contributions on the religion, history &c., of Tibet: Rise and progress of Jin or Buddhism in China. (1882).
  • Narrative of a journey to Lhasa in 1881-82. (1885).
  • Narrative of a journey round Lake Yamdo (Palti), and in Lhokha, Yarlung, and Sakya, in 1882. (1887).
  • The doctrine of transmigration. Buddhist Text Society (1893).
  • Indian Pandits in the Land of Snow. Ailargraffias: Rupa (2006).ISBN 978-8129108951.
  • A Tibetan-English dictionary, with Sanskrit synonyms. Calcutta, 1902. Adargraffiad: Motilal Banarsidass, 1970.
  • Journey To Lhasa & Central Tibet. John Murray, Llundain (1902). Adargraffiad: Kessinger Publishing, LLC (2007). ISBN 978-0548226520.
  • An introduction to the grammar of the Tibetan language;: With the texts of Situ sum-tag, Dag-je sal-wai melong, and Situi shal lung. Darjeeling Branch Press, 1915. Adargraffiad: Motilal Barnasidass, Delhi, 1972.
  • Autobiography: Narratives of the incidents of my early life. Adargraffiad, 1969).