Thomas Jefferson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B s, cat |
{{angen ffynhonnell}} |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng [[1758]] a [[1760]], ac aeth i'r coleg yn [[Williamsburg]] yn 16 oed, lle bu'n astudio dan [[William Small]]. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn [[1767]]. |
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng [[1758]] a [[1760]], ac aeth i'r coleg yn [[Williamsburg]] yn 16 oed, lle bu'n astudio dan [[William Small]]. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn [[1767]]. |
||
Yn [[1772]], priododd wraig weddw, [[Martha Wayles Skelton]] (1748-1782). Cawsant chwech plentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, [[Sally Hemings]], ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw yn [[Monticello]] [[4 Gorffennaf]] [[1826]]. |
Yn [[1772]], priododd wraig weddw, [[Martha Wayles Skelton]] (1748-1782). Cawsant chwech plentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, [[Sally Hemings]],{{angen ffynhonnell}} ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw yn [[Monticello]] [[4 Gorffennaf]] [[1826]]. |
||
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hanu o [[Eryri]]. Yn ystod yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn y [[Faenol]] ger [[Bangor]] yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal. |
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hanu o [[Eryri]]. Yn ystod yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn y [[Faenol]] ger [[Bangor]] yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal. |
Fersiwn yn ôl 09:35, 4 Awst 2012
Thomas Jefferson | |
| |
Cyfnod yn y swydd 4 Mawrth 1801 – 4 Mawrth 1809 | |
Is-Arlywydd(ion) | Aaron Burr (1801–1805) George Clinton (1805–1809) |
---|---|
Rhagflaenydd | John Adams |
Olynydd | James Madison |
Geni | 13 Ebrill 1743 Shadwell, Virginia, UDA |
Plaid wleidyddol | Democrataidd-Weriniaethol |
Priod | Martha Wayles Skelton Jefferson |
Llofnod |
Thomas Jefferson (13 Ebrill 1743 - 4 Gorffennaf 1826) oedd trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1801 hyd 1809. Bu hefyd yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1797 a 1801 ac yn llywodraethwr talaith Virginia (1779-1781). Ef oedd prif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a sylfaenydd Prifysgol Virginia.
Ganed Jefferson yn Shadwell, Virginia ar yr 2 Ebrill 1743, yn ôl y Calendr Iwlaidd oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Brydeinig yr adeg honno, neu 13 Ebrill yn ôl y Calendr Gregoraidd a fabwysiadwyd yn 1752. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio Lladin, Groeg a Ffrangeg. Bu farw ei dad yn 1757 ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn Monticello.
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng 1758 a 1760, ac aeth i'r coleg yn Williamsburg yn 16 oed, lle bu'n astudio dan William Small. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn 1767.
Yn 1772, priododd wraig weddw, Martha Wayles Skelton (1748-1782). Cawsant chwech plentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, Sally Hemings,[angen ffynhonnell] ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw yn Monticello 4 Gorffennaf 1826.
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hanu o Eryri. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ger Bangor yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal.
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol