Helvetii: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: no:Helvetikere
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ka:ჰელვეტები
Llinell 25: Llinell 25:
[[it:Elvezi]]
[[it:Elvezi]]
[[ja:ヘルウェティイ族]]
[[ja:ヘルウェティイ族]]
[[ka:ჰელვეტები]]
[[ko:헬베티족]]
[[ko:헬베티족]]
[[la:Helvetii]]
[[la:Helvetii]]

Fersiwn yn ôl 12:29, 2 Awst 2012

Llwythau Celtaidd Gâl yn y ganrif 1af CC

Llwyth Celtaidd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn ffurfio'r Swistir oedd yr Helvetii. Daw enw swyddogol Lladin y Swisdir, Confoederatio Helvetica neu Helvetia, o enw'r llwyth.

Ceir manylion amdanynt gan Iŵl Cesar yn ei Commentarii de Bello Gallico. Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr Helvetii, Orgetorix, wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr Alpau i orllewin Gâl. Gadawodd yr Helvetii eu cartrefi yn 58 CC. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr Allobroges, roedd Cesar wedi malurio'r bont yn Genefa i'w hatal rhag croesi. Gyrrodd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. Dilynodd yr Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r Sequani, ac anrheithio tiroedd yr Aedui, a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi Afon Saône, a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger Bibracte, a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchmynodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.