Johann Heinrich Füssli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sh:Johann Heinrich Füssli
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: uk:Генрі Фюзелі
Llinell 45: Llinell 45:
[[sk:Henry Fuseli]]
[[sk:Henry Fuseli]]
[[sv:Henry Fuseli]]
[[sv:Henry Fuseli]]
[[uk:Генрі Фюзелі]]
[[zh:约翰·亨利希·菲斯利]]
[[zh:约翰·亨利希·菲斯利]]

Fersiwn yn ôl 19:04, 1 Awst 2012

The artist in conversation with Johann Jakob Bodmer, 1778-1781.

Arlunydd ac awdur ar gelf o'r Swistir oedd Johann Heinrich Füssli (7 Chwefror, 174117 Ebrill, 1825), a ymsefydlodd yn Lloegr lle daeth yn adnabyddus wrth yr enw Henry Fuseli, enw a fabwysiadodd tra'n gweithio yn yr Eidal yn y 1770au. Roedd yn frodor o Zürich.

Ganed Füssli yn Zurich yn 1741 yn fab i'r peintiwr portreadau Johann Caspar Füssli (1706-1782). Ganed ei frawd Johann Kaspar (1743-1786) ddwy flynedd yn ddiweddarach a daeth yn entomolegydd adnabyddus.

Nodweddir peintiadau a darluniau Füssli gan arddull dyrchafol, delfrydol, a ysbrydolwyd gan waith Michelangelo ac eraill. Prif destunau ei waith yw digwyddiadau mawr mewn hanes a themau mytholegol, yn enwedig o fytholeg yr Henfyd.

Yn Lloegr daeth Füssli yn ffigwr dylanwadol iawn ym myd celf. Yn 1799 cafodd ei apwyntio yn athro arlunio yn yr Academi Frenhinol, Llundain, ac yn geidwad yn 1804. Ymhlith ei ddisgyblion yn yr Academi roedd John Constable (1776-1837), Benjamin Robert Haydon (1786-1846), William Etty (1787-1849), Edwin Landseer (1802-73), a'r Cymro Penry Williams (1880-1885).

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: