Awstralia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: gn:Autaralia |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: ab:Австралиа |
||
Llinell 110: | Llinell 110: | ||
{{Cyswllt erthygl ddethol|sr}} |
{{Cyswllt erthygl ddethol|sr}} |
||
[[ab:Австралиа]] |
|||
[[ace:Australia]] |
[[ace:Australia]] |
||
[[af:Australië]] |
[[af:Australië]] |
Fersiwn yn ôl 12:12, 1 Awst 2012
| |||||
Arwyddair: Dim (Advance Australia yn flaenorol) | |||||
Anthem: Advance Australia Fair Anthem frenhinol: God Save the Queen | |||||
Prifddinas | Canberra | ||||
Dinas fwyaf | Sydney | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg1 | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol ffederal | ||||
- Brenhines | Elisabeth II | ||||
- Llywodraethwr Cyffredinol | Quentin Bryce | ||||
- Prif Weinidog | Julia Gillard | ||||
Annibyniaeth - Cyfansoddiad - Statud San Steffan - Deddf Awstralia |
O'r Deyrnas Unedig 1 Ionawr 1901 11 Rhagfyr 1931 3 Mawrth 1986 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
7,741,220 km² (6ed) 1 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
20,555,300 (53) 18,972,350 2.6/km² (224fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2006 $674.9 biliwn (17eg) $30,897 (14eg) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.955 (3ydd) – uchel | ||||
Arian cyfred | Doler Awstralaidd (AUD )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
nifer2 (UTC+8–+10) nifer2 (UTC+8–+11) | ||||
Côd ISO y wlad | .au | ||||
Côd ffôn | +61
| ||||
1 Dim yn swyddogol. 2 Gweler Amser yn Awstralia |
Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r wlad chweched fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a'r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys ynys Tasmania, sy'n un o daleithiau'r wlad. Y gwledydd cyfagos yw Seland Newydd, sydd i'r de-ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papiwa Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Tarddiad yr enw "Awstralia" yw'r ymadrodd Lladin terra australis incognita ("Y tir na ŵyr neb amdano"). Mae'r ehangdir yn gorwedd rhwng Y Cefnfor Tawel i'r dwyrain a Chefnfor India i'r gorllewin. Mae mudo dynol wedi trawsnewid y wlad. Roedd Awstralia yn gartref i'r bobl brodorol, sef aboriginal, am filoedd o flynyddoedd ond ers diwedd y 18fed ganrif, mae pobl o orllewin Ewrop wedi ymfudo i'r wlad. Roedd y mwyafrif o'r mudwyr hyn yn dod o wledydd Prydain ac am flynyddoedd roedd y wlad dan reolaeth Brydeinig. Yn fwy diweddar, mae poblogaeth y wlad wedi cynyddu efo mudwyr o wledydd Asia megis Japan, De Corea, ac Indonesia. Mae Awstralia wedi creu cysylltiadau masnachol cryf gyda gwledydd y Cefnfor Tawel. Mae dyfodol economaidd y wlad i'w weld mewn masnachu yn fwy efo Asia a'r Unol Daleithiau yn hytrach na gyda'i phartneriaid traddodiadol, sef gwledydd y Gymanwlad ac Ewrop.
Hanes
- Prif: Hanes Awstralia
Cyfanheddwyd y cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd gan frodorion Awstralia cyn i Loegr hawlio'r rhan ddwyreiniol o'r cyfandir yn 1770 a daeth yn dir i anfon drwgweithredwyr o wledydd Prydain iddo, yn cynnwys nifer o Gymry. Alltudiwyd rhyw 1800 o bobl o Gymru erbyn 1852, rhyw 300 yn ferched. Yn eu plith roedd arweinwyr y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a Lewsyn yr Heliwr y bu ganddo ran yn "nherfysgoedd" Merthyr.
Defnydd Tir
Mae dros 165 miliwn dafad yn Awstralia sy'n cyfrannu at ddiwydiant allforio mawr y wlad. Mae gwartheg yn bwysig hefyd, yn enwedig yn gorllewin y wlad. Mae gwenith a grawnwin yn cael eu tyfu mewn amryw o ardaloedd yn ne'r wlad. Mae Afon Margaret a Barossa Valley yn ardaloedd gwin pwysig iawn. Mae rhan fwyaf o'r wlad yn ddiffeithdir sy'n sych a chras ac yn anaddas ar gyfer amaethyddiaeth.
Tirwedd
Mae tirwedd Awstralia yn cynnwys nifer o lwyfandiroedd erydog sy'n gorwedd yng nghanol y plât Indo-Awstralaidd. Dyma'r wlad sychaf ar ôl yr Antarctig a dyma'r cyfandir mwyaf gwastad. Mae'r arfordiroedd yn tueddu i fod yn fwy bryniog a ffrwythlon, yn enwedig yn nwyrain y wlad lle mae'r rhan fwyaf o'r trefi a dinasoedd. Mae mynyddoedd y 'Great Dividing Range' yn ffurfio ffin rhwng yr ardaloedd arfordirol tymherus a'r mewndir sych, cras. Y mynydd uchaf yw Mynydd Kosciuszko yn y Snowy Mountains.
Trafnidiaeth a diwydiant
Roedd y cronfeydd mwyn estynedig a oedd yn cynnwys glo, mwyn haearn, bocsit, a copr, yn sicrhau economi cryf i'r wlad. Erbyn hyn mae mwyngloddio yn dal i ddigwydd ar raddfa sylweddol ond mae'r sector gwasanaethau yn gryfach, yn enwedig y diwydiant twristiaeth.
Llywodraeth
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Israniadau
Taleithiau
Tiriogaethau
Economi
Mae economi Awstralia yn un gryf yn bennaf oherwydd y diwydiant mwyngloddio.
Diwylliant
Mae demograffeg Awstralia yn dangos ei fod yn drefol iawn, efo rhan helaeth o'r boblogaeth yn byw yn y dinasoedd ar yr arfordir. Mae'r dinasoedd hyn yn cynnal amrywiaeth o ddiwylliannau, o'r bobl frodorol (Aborigine) i'r mewnfudwyr o Ewrop.
Chwaraeon
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol