Sebastian Coe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion iaith
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: bg:Себастиан Коу
Llinell 54: Llinell 54:
[[Categori:Marchogion Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig]]
[[Categori:Marchogion Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig]]


[[bg:Себастиан Коу]]
[[bn:সেবাস্টিয়ান কো]]
[[bn:সেবাস্টিয়ান কো]]
[[ca:Sebastian Newbold Coe]]
[[ca:Sebastian Newbold Coe]]
Llinell 59: Llinell 60:
[[da:Sebastian Coe]]
[[da:Sebastian Coe]]
[[de:Sebastian Coe]]
[[de:Sebastian Coe]]
[[en:Sebastian Coe]]
[[et:Sebastian Coe]]
[[el:Σεμπάστιαν Κόε]]
[[el:Σεμπάστιαν Κόε]]
[[es:Sebastian Coe]]
[[en:Sebastian Coe]]
[[eo:Sebastian Coe]]
[[eo:Sebastian Coe]]
[[es:Sebastian Coe]]
[[et:Sebastian Coe]]
[[eu:Sebastian Coe]]
[[eu:Sebastian Coe]]
[[fi:Sebastian Coe]]
[[fr:Sebastian Coe]]
[[fr:Sebastian Coe]]
[[gl:Sebastian Coe]]
[[gl:Sebastian Coe]]
[[ko:시배스천 ]]
[[he:סבסטיאן קו]]
[[hr:Sebastian Coe]]
[[hr:Sebastian Coe]]
[[io:Sebastian Coe]]
[[io:Sebastian Coe]]
[[it:Sebastian Coe]]
[[it:Sebastian Coe]]
[[ja:セバスチャン・コー]]
[[he:סבסטיאן קו]]
[[ko:시배스천 코]]
[[lv:Sebastjans Ko]]
[[lv:Sebastjans Ko]]
[[nl:Sebastian Coe]]
[[nl:Sebastian Coe]]
[[ja:セバスチャン・コー]]
[[no:Sebastian Coe]]
[[no:Sebastian Coe]]
[[pl:Sebastian Coe]]
[[pl:Sebastian Coe]]
Llinell 80: Llinell 82:
[[ru:Коу, Себастьян]]
[[ru:Коу, Себастьян]]
[[simple:Sebastian Coe]]
[[simple:Sebastian Coe]]
[[fi:Sebastian Coe]]
[[sv:Sebastian Coe]]
[[sv:Sebastian Coe]]
[[ta:செபாஸ்டியன் கோ]]
[[ta:செபாஸ்டியன் கோ]]

Fersiwn yn ôl 15:06, 28 Gorffennaf 2012

Cyn-athletwr Seisnig a gwleidydd Ceidwadol yw Sebastian Newbold Coe, Baron Coe, KBE (ganed 29 Medi 1956), a adnabyddir fel Seb Coe.[1] Roedd Coe yn rhedwr pellter canol, enillodd bedwar medal Olympaidd, gan gynnwys yr aur yn ras 1500 medr Gemau Olympaidd yr Haf 1980 ac 1984, gan osod wyth record y byd tu allan a tri dan do. Bu hefyd yn aelod o dîm ras gyfnewid a dorrodd record y byd. Domineiddwyd rhedeg pellter canol yr 1980au gan y gystadleuaeth rhyngddo ef a'i gyd-athletwyr Steve Ovett a Steve Cram.[2]

Wedi ymddeol o chwaraeon, daeth Coe yn Aelod Seneddol Ceidwadol o 1992 hyd 1997, gan ddod yn arglwydd oes yn 2000. Ef oedd yn arwain y cais dros Lundain i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2012, ac wedi i'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wobrwyo Llundain gyda'r Gemau, daeth Coe yn gadeirydd ar Bwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain. Yn 2007, etholwyd yn is-lywydd Cymdeithas Ryngwladol Ffederasiynau Athletau, gan gael ei ail-ethol am dymor pedair blynedd arall ar 25 Awst 2011.[3]

Cefndir

Ganed Coe yn Chiswick, Llundain. Bu farw ei fam, Tina Angela Lal, yn Hammersmith a Fulham, Llundain, yn 2005, yn 75 mlwydd oed. Roedd yn hanner Indiaidd, yn ferch i dad Punjabi, Sardari Lal, a mam Seisnig, Vera Swan.[4] Bu farw ei dad, Peter Coe (ganed Percy N. Coe yn Kingston-upon-Thames), ar 9 Awst 2008, ym 88 mlwydd oed, tra roedd Coe yn Beijing.[5]

Magwyd Coe yn Sheffield a mynychodd ysgolion Tapton[6] a Abbeydale Grange. Ymunodd â thîm athletau Hallamshire Harriers pan oedd yn 12 oed, a buan y dechreuodd arbenigo mewn rhedeg pellter canol. Roedd yn fwyaf adnabyddus am gynrychioli Prifysgol Loughborough, a Haringey yn ddiweddarach, pan nad oedd yn cynrychioli'i wlad.[7]

Cafodd ei hyfforddi gan ei dad, a gynlluniodd ymarferion yn arbennig ar gyfer ei fab. Astudiodd Coe economeg a hanes cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough, gan ennill ei ras gyntaf o bwys ym 1977, sef ras 800 medr yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd Dan Do yn San Sebastián, Sbaen. Tra yn y brifysgol y cwrddodd â George Gandy a ddatblygodd ymarferion cyflyru arloesol er mwyn gwella rhedeg Coe.[8]

Goreuon personol

Pellter Amser Dyddiad
400 m 46.87 1979 & 45.5 mewn ras gyfnewid (1979)
800 m 1:41.73 1981
1000 m 2:12.18 1981
1500 m 3:29.77 1986
Mile 3:47.33 1981
2000 m 4:58.84 1982
3000 m 7:54.32 1986
5000 m 14:06.2 1980

Teitlau ac anrhydeddau

  • Mr Sebastian Coe MBE (1982–1990)
  • Mr Sebastian Coe OBE (1990–1992)
  • Mr Sebastian Coe OBE AS (1992–1997)
  • Mr Sebastian Coe OBE (1997–2000)
  • Yr Arglwydd Coe OBE (2000–2006)
  • Yr Arglwydd Coe KBE (2006–)

Cyfeiriadau

  1.  The Big Interview: Seb Coe. The Times (Gorffennaf 2008). Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2011.
  2.  Sebastian Coe. BBC (9 Awst 2000). Adalwyd ar 23 Mai 2010.
  3. iaaf.org – International Association of Athletics Federations. Daegu2011.iaaf.org (2011-08-24). Adalwyd ar 2011-12-06.
  4.  Angella Johnson (13 Rhagfyr 2009). Lord Coe and his grandfather, the Punjabi Playboy: The racy ancestry of one of Britain's greatest runners. Daily Mail.
  5.  Alan Hubbard (10 Awst 2008). Peter Coe, coach and father of Sebastian, dies at 88. The Independent. Adalwyd ar 24 Mai 2012.
  6.  My School Sport: Sebastian Coe. Daily Telegraph (20 Chwefror 2007). Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2011.
  7.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae angen i'r ddau baramedr urlarchif a dyddiadarchif cael eu nodi neu i'r ddau cael eu hepgor.Sebastian Coe OBE. made-in-sheffield.com.
  8.  George Gandy’s Tips on Running. Motleyhealth.com. Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2011.

Dolenni allanol