Ystadegaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: si:සංඛ්යානය |
B robot yn ychwanegu: or:ପରିସଂଖ୍ୟାନ |
||
Llinell 92: | Llinell 92: | ||
[[no:Statistikk]] |
[[no:Statistikk]] |
||
[[oc:Estatistica]] |
[[oc:Estatistica]] |
||
[[or:ପରିସଂଖ୍ୟାନ]] |
|||
[[pl:Statystyka]] |
[[pl:Statystyka]] |
||
[[pms:Statìstica]] |
[[pms:Statìstica]] |
Fersiwn yn ôl 07:32, 25 Gorffennaf 2012
Disgyblaeth fathemategol lydan yw ystadegaeth sy'n astudio ffyrdd o gasglu, crynhoi dadansoddi, dod i casgliadau a chyflwyno data.[1] Mae'n ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth lydan o ddisgyblaethau academaidd o'r gwyddorau ffisegol a chymdeithasol i'r dynoliaethau, yn ogystal a busnes, llywodraeth, a diwydiant.
Mae llawer o gysyniadau ystadegaeth yn dibynnu ar ddealltwriaeth o debygolrwydd, ac fe ddaw sawl term ystadegol o'r maes hwnnw, er enghraifft: poblogaeth, sampl, tebygolrwydd. Unwaith mae'r data wedi eu casglu (trwy ddull samplu ffurfiol, neu drwy nodi canlyniadau rhyw arbrawf neu'i gilydd, neu drwy arsylwi rhyw broses drosodd a throsodd dros amser), gellir cynhyrchu crynhöadau rhifyddol gan ddefnyddio ystadegaeth ddisgrifiol.
Modelir patrymau yn y data i dynnu casgliadau ynglŷn â'r boblogaeth ehangach, gan ddefnyddio ystadegath gasgliadol i ddehongli hapder ac ansicrwydd y sefyllfa. Gall y casgliadau fod yn atebion i gwestiynnau "ie/na" (profi rhagdybiaeth), amcangyfrif nodweddau rhifyddol, rhagweld yr arsylwadau sydd i ddod, disgrifiadau o gysylltiad, neu modelu perthynasau.
Ystadegaeth gymwysiedig yw'r uchod yn y bôn. O gymharu, mae ystadegaeth haniaethol yn is-ddisgybliaeth fathemategol sy'n defnyddio tebygolrwydd a dadansoddi i roi sylfaen theoretig cadarn i ystadegaeth.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Moses, Lincoln E. Think and Explain with statistics, pp. 1 - 3. Addison-Wesley, 1986.