Mebyon Kernow: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: gv:Mebyon Kernow
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: zh:康瓦爾之子
Llinell 62: Llinell 62:
[[ru:Сыны Корнуолла]]
[[ru:Сыны Корнуолла]]
[[sv:Mebyon Kernow]]
[[sv:Mebyon Kernow]]
[[zh:康瓦爾之子]]

Fersiwn yn ôl 03:03, 16 Gorffennaf 2012

Logo Mebyon Kernow ar eu gwefan.

Plaid wleidyddol chwith-o'r-canol ydy Mebyon Kernow (sef y gair Cernyweg am Feibion Cernyw neu'r MK), sy'n blaid weithredol yng Nghernyw, gwledydd Prydain.

Prif amcanion MK ydyw sefydlu graddfa o hunan-lywodraeth i Gernyw drwy sefydlu Cynulliad i Gernyw drwy ddeddfwriaeth. Hyd yma nid oes ganddynt aelod etholedig yn San Steffan, ac nid ydynt yn cael ec gynrychioli yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ym Mehefin 2009 etholwyd tri o'u haelodau yn gynghorwyr. [1]

Hanes ac Amcanion

Sefydlwyd MK ar 6 Ionawr 1951 mewn cyfarfod yn Redruth. Etholwyd Helena Charles yn gadeirydd cyntaf y blaid. Yn y cyfarfod cyntaf, derbyniwyd yr amcanion canlynol:

Baner Cernyw
  1. Archwilio cyflwr y wlad gan weithredu drosti i ddad-wneud unrhyw ragfarnau, er mwyn Cernyw, drwy newid safbwyntiau pobl Cernyw, neu drwy unrhyw ddull arall.
  2. I feithrin y Gernyweg a llenyddiaeth Gernyweg.
  3. I hyrwyddo'r astudiaeth o hanes Cernyw, o safbwynt pobl Cernyw.
  4. Addysgu pobl i'w gweld eu hunain fel un o'r chwe gwlad Geltaidd.
  5. I gyhoeddi pamffledi, papurau, erthyglau a llythyrau yn y wasg pan fo hynny'n bosibl.
  6. I drefnu cyngherddau a digwyddiadau i'w cynnal gyda blas Cernyw-Geltaidd arnynt, er mwyn hybu'r amcanion hyn.
  7. I gydweithio gyda chymdeithasau sy'n ymwneud â chadw cymeriad Cernyw.

Arweinwyr y blaid

  • 1951 Helena Charles
  • 1959 Major Cecil Beer
  • 1970 Len Truran
  • 1973 Richard Jenkin
  • 1991 Loveday Jenkin
  • 1997 Dick Cole


Gweler hefyd

Cyfeiriadau