Stori fer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: da:Novelleanalyse |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: be:Апавяданне |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
[[af:Kortverhaal]] |
[[af:Kortverhaal]] |
||
[[ar:أقصوصة]] |
[[ar:أقصوصة]] |
||
[[be:Апавяданне]] |
|||
[[bg:Разказ]] |
[[bg:Разказ]] |
||
[[bs:Pripovijetka]] |
[[bs:Pripovijetka]] |
Fersiwn yn ôl 12:55, 15 Gorffennaf 2012
Ffuglen greadigol ar ffurf darn o ryddiaith cymharol fyr yw stori fer. Mae'n fyrrach na nofel ond mae ei hyd yn gallu amrywio o sawl paragraff yn unig i ddegau o dudalennau. Ar ôl y nofel, mae'r stori fer yn un o'r ffurfiau ffuglen mwyaf poblogaidd.
Anodd diffinio'r stori fer yn derfynol, ond mae ganddi sawl nodwedd arbennig fel ffurf lenyddol.
- Mae'r stori fer yn tueddu i ganolbwyntio ar un agwedd ar stori neu gymeriad a'i archwilio'n ofalus.
- Cyfyngir y llwyfan fel rheol ac mae'r cynllun yn llawer llai cymhleth na chynllun nofel.
- Torrir allan popeth sydd ddim yn berthnasol i'r stori ei hun.
- Dylai fod yn waith gorffenedig ynddo ei hun, yn gyfanwaith cyfan.
Rhai o feistri mawr y Stori Fer
- Jorge Luis Borges
- Arthur Machen
- Guy de Maupassant
- Gérard de Nerval
- Pádraic Ó Conaire
- Edgar Allan Poe
- Kate Roberts
- Voltaire
Llyfryddiaeth
- Dafydd Jenkins, Y Stori Fer Gymraeg (1966)
- John Jenkins (gol.), Y Stori Fer: Seren Wib Llenyddiaeth (1979)