Ceuta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: zu:Ceuta
Dim crynodeb golygu
Llinell 58: Llinell 58:
[[jv:Ceuta]]
[[jv:Ceuta]]
[[ka:სეუტა]]
[[ka:სეუტა]]
[[kk:Сеута]]
[[ko:세우타]]
[[ko:세우타]]
[[ku:Ceuta]]
[[ku:Ceuta]]

Fersiwn yn ôl 18:24, 11 Gorffennaf 2012

Lleoliad Ceuta

Mae Ceuta yn diriogaeth Sbaenaidd 19km², sy'n rhan o ranbarth Andalucia yn Sbaen, ar arfordir Gogledd Affrica. Mae'n wynebu'r Môr Canoldir i'r gogledd ac yn ffinio â Moroco (rhanbarth Tanger-Tétouan) yn y de. Mae gan Ceuta, ynghyd â'r dref o'r un enw sy'n brifddinas iddi (Arabeg Sebta o'r Lladin Septem), boblogaeth o 70,000.

Yn ôl traddodiad, ymwelodd Ercwlff (Heracles) ac Odysseus (Ulusses) yma. Roedd yn borthfa filwrol dan y Rhufeiniaid. Fe'i rheolwyd gan yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ôl hynny ac yna yn 931 fe'i meddianwyd gan reolwyr Umayyad newydd Andalucia. Roedd y bardd Ibn Sahl o Sevilla yn Ceuta rhwng 1248 a 1250 yng ngwasanaeth y llywodraethwr lleol. Cipiodd Siâms I o Aragon y ddinas yn 1309 ac yn 1415 fe'i cipwyd gan Portiwgal. Rhwng 1580 a 1640 roedd dan reolaeth Sbaen a Phortiwgal gyda'i gilydd (roedd y ddwy wlad hynny wedi'u huno yn y cyfnod hwnnw). Pan dorrodd Portiwgal allan o'r undeb meddiannodd y Sbaenwyr y diriogaeth.

Treuliodd y marchog Almaenig Jörg von Ehingen tua saith mis yn Ceuta yn 1455-1456 pan fu'r dref gaerog dan warchae gan y Morociaid.