Bangkok: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ext:Bangkok
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ilo:Bangkok
Llinell 113: Llinell 113:
[[id:Bangkok]]
[[id:Bangkok]]
[[ie:Banghok]]
[[ie:Banghok]]
[[ilo:Bangkok]]
[[io:Bangkok]]
[[io:Bangkok]]
[[is:Bangkok]]
[[is:Bangkok]]

Fersiwn yn ôl 16:32, 10 Gorffennaf 2012

Bangkok
Delwedd:Bangkok City Montage.png
Lleoliad o fewn Gwlad Thai
Gwlad Gwlad Thai
Llywodraeth
Maer Sukhumbhand Paribatra
Daearyddiaeth
Arwynebedd 1568.7 km²
Uchder 2 m m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 8,160,522 (Cyfrifiad Gorffennaf 2007)
Dwysedd Poblogaeth 4,051 /km2
Metro 10,061,726
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser Gwlad Thai (UTC+7)
Gwefan [1]

Bangkok, a elwir yn Krung Thep Mahanakhon yn yr iaith Thai (กรุงเทพฯ), ydy prifddinas Gwlad Thai a dinas fwyaf y wlad. Lleolir Bangkok ar 13°45′Gogledd 100°31′Dwyrain. Sefydlwyd y ddinas ar lan ddwyreiniol afon Chao Phraya, ger Gwlff Gwlad Thai. Arferai fod yn fan masnachu bychan ger aber yr Afon Chao Phraya yn ystod cyfnod y Deyrnas Ayutthaya. Daeth y ddinas yn flaenllaw yn Siam (yr hen enw am Wlad Thai) a chafodd statws prifddinas ym 1768 pan losgwyd Ayutthaya. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y Deyrnas Rattanakosin presennol tan 1782 pan symudwyd y brifddinas i ochr arall yr afon gan Rama I ar ôl marwolaeth y Brenin Taksin. Bellach rhoddir yr enw ffurfiol "Phra Nakhon" ar y brifddinas Rattanakosin, gan gade ffiniau hynafol yr ardal fetropolitanaidd ac mae'r enw Bangkok yn cynnwys yr ardaloedd ddinesig a adeiladwyd yn y 18fed ganrif. Mae gan y ddinas weinyddiaeth gyhoeddus a llywodraethwr.

Dros y ddau gan mlynedd ddiwethaf, mae Bangkok wedi datblygu i fod yn ganolfan wleidyddol, cymdeithasol ac economaidd, nid yn unig i Wlad Thai ond hefyd i Indo-Tsieina a De-ddwryain Asia. Mae dylanwad y ddinas ar fyd y celfyddydau, gwleidyddiaeth, ffasiwn, addysg ac adloniant yn ogystal â bod yn ganolfan fusnes, ariannol a diwylliannol pwysig wedi gosod Bangkok ymysg dinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd y byd.

Bangkok yw'r 22ain ddinas fwyaf yn y byd o ran poblogaeth, gyda 8,160,522 o drigolion yno yn ôl cyfrifiad swyddogol Gorffennaf 2007. Fodd bynnag, o ganlyniad i fudwyr answyddogol sy'n dod i'r ddinas o Ogledd-ddwyrain Gwlad Thai a gwledydd Asiaidd eraill, amcangyfrifir fod poblogaeth Bangkok Fwyaf yn agosach i 15 miliwn. Golyga hyn fod gan y wlad gymysgedd o genhedloedd yn trigo yno, yn hytrach na phoblogaeth homogenus Gwlad Thai, sydd wedi ychwanegu at naws gosmopolitanaidd y ddinas. Mae'r ddinas yn rhan o'r triongl hynod ddiwydiannol o ganol a dwyrain Gwlad Thai, sy'n ymestyn o Nakhon Ratchasima heibio i Bangkok i'r ardal ddiwydiannol ddwyreiniol.

Mae Talaith Bangkok yn ffinio â chwech talaith arall: Nonthaburi, Pathum Thani, Samut Prakan, Samut Sakhon a Nakhon Pathom, a chysylltir y pump talaith yna yn cytrefu Ardal Fetropolitanaidd Bangkok.


Bangkok gyda'r nos


Hanes

Krung Thep yw enw iaith y ddinas ers dwy ganrif a mwy. Nid hi oedd prifddinas wreiddiol Gwlad Thai; yn wir, tan y 18fed ganrif, fe'i lleolid ar lan gorllewinol yr afon yn Thonburi ac yn nifer o leoedd eraill yn y Deyrnas cyn hynny. Erbyn hyn, mae'r ddwy ddinas wedi tyfu'n un a chyfeirir atynt fel Krung Thep.

Arferai tref Bang Kok (Thai: บางกอก ) fod yn ganolfan fasnachu bychan ac yn gymuned borthladdol ar lan orllewinol yr afon Chao Phraya cyn i Deyrnas Ayutthaya (rhagflaenydd y Wlad Thai fodern a fodolai o 1350 tan 1767) gael ei sefydlu. Mae tarddiad yr enw'n ansicr. "Bang" yw'r enw Thai Ganolog am dref sydd wedi'i lleoli ar lan afon. Credir fod "Bangkok" yn deillio o naill ai Bang Kok, gyda "kok" yn enw a roddir am eirinen Java; neu Bang Koh, gyda "koh" yn golygu "ynys," sy'n gyfeiriad at dirwedd yr ardal a gerfiwyd gan afonydd a chamlesi.

Pan gwympodd y Deyrnas Ayutthaya i'r Teyrnas Byrmanaidd ym 1767, sefydlodd y Brenin Taksin newydd ei brifddinas newydd yn yr hen ardal a adwaenid fel Bangkok, a galwyd yr ardal yn Thonburi. Pan ddaeth teyrnasiad Taksin i ben ym 1782, ail-grëodd y Brenin Buddha Yodfa Chulaloke y brifddinas ar lannau dwyreiniol yr afon gan roi enw seremonïol ar y ddinas, enw a fyrhawyd i'w enw presennol sef Krung Thep Maha Nakhon. Fodd bynnag, etifeddodd y ddinas newydd yr enw Bangkok hefyd, enw a barhaodd i gael ei ddefnyddio gan estroniaid er mwyn cyfeirio at y ddinas yn ei chyfanrwydd. Daeth Bangkok yn yr enw Saesneg swyddogol, er yng Ngwlad Thai, mae'r enw'n cyfeirio at yr hen ardal ar lannau gorllewinol yr afon. Ers hynny, mae'r ddinas wedi'i moderneiddio'n llwyr ac wedi newid llawer, gan gynnwys cyflwyno trafnidiaeth a seilwaith cyfleusdod yn ystod teyrnasiad y Brenin Mongkut a'r Brenin Chulalongkorn, ac yn fuan iawn datblygodd y ddinas yn ganolbwynt economaidd i Wlad Thai.

Bangkok heddiw

Mae Bangkok wedi tyfu'n gyflym, yn economaidd ac yn ddiwylliannol ac mae bellach yn un o ganolfannau pwysicaf De-ddwyrain Asia. Mae Sefydliad Meterologaidd y Byd wedi galw Bangkok yn ddinas fawr boethaf y blaned. Ar ben hyn, Bangkok yw un o atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd y byd a'r ddinas gyfoethocaf a mwyaf poblog yng Ngwlad Thai. Daw yn yr ail safle ar hugain o ran dinasoedd mwyaf poblog y byd.

Enwogion

Dolenni allanol