Diana, Tywysoges Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn newid: fa:دایانا، شاهدخت ولز
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn newid: cv:Диана, Уэльс еликĕ
Llinell 89: Llinell 89:
[[ca:Diana de Gal·les]]
[[ca:Diana de Gal·les]]
[[cs:Princezna Diana]]
[[cs:Princezna Diana]]
[[cv:Диана, Уэльс принцесси]]
[[cv:Диана, Уэльс еликĕ]]
[[da:Prinsesse Diana]]
[[da:Prinsesse Diana]]
[[de:Diana Spencer]]
[[de:Diana Spencer]]

Fersiwn yn ôl 20:10, 9 Gorffennaf 2012

Delwedd:Tywysogesdi.jpg
Diana, Tywysoges Cymru

Diana Spencer, a adnabyddir wrth ei theitl swyddogol fel Diana, Tywysoges Cymru (Diana Frances; née Spencer;1 Gorffennaf 1961 – 31 Awst 1997) oedd gwraig gyntaf Y Tywysog Siarl. Ei meibion, y Tywysog William a'r Tywysog Harri, yw'r ail a'r trydydd etifeddion yr orsedd ym Mhrydain a'r pymthegfed yn Nheyrnas y Gymanwlad.

Roedd Diana yn ffigwr cyhoeddus ers i'w dyweddiad i'r Tywysog Siarl gael ei gyhoeddi. Ers hynny roedd Diana bron yn ddi-baid, yn ganolbwynt ar gyfer archwiliadau'r wasg ym Mhrydain ac o gwmpas y byd, yn ystod ei phriodas ac yn dilyn ei hysgariad. Bu farw mewn damwain car ym Mharis. Daeth Ymchwiliad y Crwner, a oedd yn hir-ddisgwyliedig, i ben ym mis Ebrill 2008, a daeth i'r casgliad y lladdwyd Diana yn anghyfreithlon gan y gyrrwr a'r paparazzi a oedd yn ei herlid.[1]

Bywyd cynnar

Roedd Diana yn ferch ieuengaf i Spencer, Is-iarll Althorp, sef 8fed Iarll Spencer yn ddiweddarach, a'i wraig cyntaf, Frances, Is-iarlless Althorp (yr Anrhydeddus Frances Burke Roche gynt, a Frances Shand Kydd yn ddiweddarach). Ganwyd yn Park House, Sandringham yn Norfolk ar 1 Gorffennaf 1961 am 6.45 y prynhawn. Bedyddwyd yn Egwlys St. Mary Magdalene gan y gwir barchedig Percy Herbert (rheithor yr eglwys a chyn Esgob Norwich a Blackburn); roedd ei rhieni bedydd yn cynnwys John Floyd (cadeirydd Christie's). Hi oedd trydydd plentyn y cwpl, roedd ei brodydd a'i chwiorydd oedd y Fonesig Sarah Spencer (ganwyd 1955), y Fonesig Jane Spencer (ganwyd 1957), yr Anrhydeddus John Spencer (bu farw 12 Ionawr 1960), a'r Anrhydeddus Charles Spencer (ganwyd 1964). Yn dilyn ysgariad chwerw eu rhieni ym 1969 (ynglŷn a helynt y Fonesig Althorp gyda Peter Shand Kydd), cymerodd mam Diana hi a'i brawd ifengaf i fyw mewn fflat yn Knightsbridge, Llundain, ble mynychodd Diana ysgol leol. Y Nadolig hwnnw, fe aeth y plant i gyd i ddathlu gyda'u tad, ond gwrthodof ef i'w gadael i ddychwelyd i Lundain wedyn. Fe erlynodd y Fonesig Althorp er mwyn cael gwarchodaeth o'i phlant, ond fe gynorthwywyd y llys i wobrwyo'r warchodaeth i'r tad gan dystiolaeth mam y Fonesig Althorp yn ei herbyn.

Ym 1976 priododd yr Arglwydd Spencer Raine, Iarlles Dartmouth, unig ferch y nofelydd rhamantus Barbara Cartland, ar ôl iddo achosi ysgariad yr Iarll a'r Iarlles Dartmouth. Bu Diana yn teithio ar hyd y wlad yn ystod y cyfnod hwn, gan fyw rhwng cartrefi ei rhieni, gyda'i thad yn sedd y teulu Spencer yn Swydd Northampton, a gyda'i mam a oedd wedi symud i fyw i Ynys Seil, oddi ar ardfordir gorllewinol yr Alban. Yn wahanol i'w brodyr a'i chwioryddid, nid oedd Diana yn cyd-dynnu gyda'i llysfam.

Addysg

Derbyniodd Diana ei haddysg yn Ysgol Silfield, Kings Lynn, Norfolk, ac yna yn Neuadd Riddlesworth yn Norfolk ac yn Ysgol West Heath i Ferched yn Sevenoaks, Swydd Gaint. Nid oedd yn fyfyrwraig llwyddiannus, wedi iddi sefyll ei haroliadau lefel O a'u methu ddwywaith. Derbyniodd wobr yn West Heath am ei chyfraniad eithriadol i'r gymuned. Pan oedd yn 17 oed ym 1977, gadawodd West Heath ac am gyfnod byr mynychodd Institut Alpin Videmanette, ysgol berffeithio yn Rougemont, Y Swistir. Tua'r un cyfnod, cyfarfu â'r Tywysog Siarl, a oedd yn canlyn ei chwaer, Sarah ar y pryd. Dywedir fod Diana yn rhagori mewn nofio a phlymio a'i bod yn dyheu i fod yn falerina Astudiai fallet am gyfnod, ond am ei bod yn 5'10", roedd yn rhy dal i wneud ballet yn broffesiynol.

Cyn iddi droi'n 17 oed, symudodd Diana i Lundain, gan fyw yn fflat ei mam am fod ei mam yn byw yn yr Alban am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Prynwyd apartment iddi yn Coleherne Court yn ardal Earls Court am £50,000 fel anrheg penblwydd wrth ei thad yr Iarll Spencer. Bu'n byw yno tan 1981 gan rannu'r aprtment gyda thri person arall.

Tra'n sefydlu ei hun yn Llundain, aeth ar gwrs coginio a gweithiodd fel hyfforddwraig ddawns nes i ddamwain sgïo beri iddi golli tri mis o waith. Yna cafodd waith fel cynorthwyydd mewn meithrinfa, gweithiodd fel glanheuwraig i'w chwaer Sarah a nifer o'i ffrindiau a gweithiodd fel croesawferch mewn partïon.

Perthynas â Chymru

Fel ei phriod, nid oedd y dywysoges yn byw yng Nghymru. Ni ddysgodd Gymraeg ac anaml oedd ei hymweliadau â'r wlad.

Llinach

Cyfeiriadau

  1. Princess Diana unlawfully killed BBC. Adalwyd ar 07-04-2008, 22:34 GMT