Robert Thomas (Ap Vychan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau) B WPCleaner v1.14 - en dash or em dash - Headlines start with three "=" and later with level two (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:ApVychan.jpg|right|thumb|250px|Robert Thomas (Ap Vychan) (Delwedd o [http://www.llgc.org.uk/?id=343&L=1 Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru])]] |
[[Delwedd:ApVychan.jpg|right|thumb|250px|Robert Thomas (Ap Vychan) (Delwedd o [http://www.llgc.org.uk/?id=343&L=1 Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru])]] |
||
Llenor a gweinidog [[Cymry|Cymreig]] o ardal [[Penllyn]], [[Gwynedd]], oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' ([[11 Awst]] [[1809]] |
Llenor a gweinidog [[Cymry|Cymreig]] o ardal [[Penllyn]], [[Gwynedd]], oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' ([[11 Awst]] [[1809]] – [[23 Ebrill]] [[1880]]). Roedd yn perthyn i Fychaniaid [[Caer Gai]] ac felly'n ddisgynydd pell i [[Rowland Vaughan]], [[Gwerful Fychan]] a [[Tudur Penllyn]]. |
||
Ganed Ap Vychan (''sic'') mewn bwthyn wrth waelod [[Pennant-Lliw]] ym mhlwyf [[Llanuwchllyn]]. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn. Dywed am ei fam, |
Ganed Ap Vychan (''sic'') mewn bwthyn wrth waelod [[Pennant-Lliw]] ym mhlwyf [[Llanuwchllyn]]. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn. Dywed am ei fam, |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy [[cadair|gadair]] am ei [[awdl]]au yn [[Eisteddfod]]au'r [[Y Rhyl|Rhyl]] a [[Caerleon|Chaerleon]], ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur [[rhyddiaith]] mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei [[hunangofiant]] yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y [[19eg ganrif]]. |

==Llyfryddiaeth== |
|||
*''Gwaith Ap Vychan'', gol. [[O. M. Edwards]] (Cyfres y Fil) |
*''Gwaith Ap Vychan'', gol. [[O. M. Edwards]] (Cyfres y Fil) |
||
Fersiwn yn ôl 16:34, 9 Gorffennaf 2012
Llenor a gweinidog Cymreig o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd Robert Thomas, enw barddol Ap Vychan neu Ap Fychan (11 Awst 1809 – 23 Ebrill 1880). Roedd yn perthyn i Fychaniaid Caer Gai ac felly'n ddisgynydd pell i Rowland Vaughan, Gwerful Fychan a Tudur Penllyn.
Ganed Ap Vychan (sic) mewn bwthyn wrth waelod Pennant-Lliw ym mhlwyf Llanuwchllyn. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn. Dywed am ei fam,
- 'Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
- Yn wyneb caledfyd;
- Canai hi heb ofni'r byd
- Yn oedfa gerwin adfyd.'
Cafodd ei addysg i gyd gan ei dad, Dafydd Thomas, a ddysgodd iddo ddarllen a sgwennu Cymraeg ac elfennau rhifyddiaeth. Ar ôl gweithio fel gwas yma ac acw, aeth i fod yn brentis yng Nghonwy a phriododd ferch ei feist, William Jones. Dechreuodd bregethu. Daeth Ap Vychan yn gyfaill i'r Methodus mawr J. R. Jones, Ramoth. Bu'n weinidog yn Ninas Mawddwy a phlwyf Rhiwabon, ymysg lleoedd eraill a chafodd waith fel golygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn yr Annibynwyr. Yn 1873 fe'i apwyntiwyd yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala a daeth i adnabod Michael D. Jones. Bu farw yn 1880.
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy gadair am ei awdlau yn Eisteddfodau'r Rhyl a Chaerleon, ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur rhyddiaith mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei hunangofiant yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.
Llyfryddiaeth
- Gwaith Ap Vychan, gol. O. M. Edwards (Cyfres y Fil)
Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan, gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas.