Gwalch Marthin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn newid: vi:Ó ngỗng
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ar:باز شمالي
Llinell 27: Llinell 27:
[[als:Habicht]]
[[als:Habicht]]
[[an:Accipiter gentilis]]
[[an:Accipiter gentilis]]
[[ar:باز شمالي]]
[[av:Хъарчигъа]]
[[av:Хъарчигъа]]
[[az:Tetraçalan]]
[[az:Tetraçalan]]

Fersiwn yn ôl 15:14, 7 Gorffennaf 2012

Gwalch Marth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Accipiter
Rhywogaeth: A. gentilis
Enw deuenwol
Accipiter gentilis
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Gwalch Marth (Accipiter gentilis) yn aderyn rheibiol sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o rannau gogleddol Ewrop, Asia a Gogledd America.

Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, ond mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.

Delwedd:Goshawkfly.jpg
Gwalch Marth yn hedfan

Mae'n nythu mewn coed, ac yn hela adar, hyd at faint Ffesant ac anifeiliad hyd at faint Ysgyfarnog ambell dro. Mae'n medru symud yn gyflym trwy'r coed i ddal adar cyn iddynt wybod ei fod yno. Gellir adnabod y Gwalch Marth o'i gynffon hir ac adenydd gweddol fyr a llydan, sy'n ei alluogi i symud yn gyflym trwy'r coed. Mae'r ceiliog yn llwydlad ar ei gefn a llinellau llwyd ar y fron, tra mae'r iâr yn fwy llwyd tywyll gyda llai o liw glas ar y cefn. Gellir cymysgu rhwng y Gwalch Marth a'r Gwalch Glas ar brydiau, ond mae'r Gwalch Marth yn aderyn mwy o faint. Fel gyda'r Gwalch Glas, mae'r iâr yn fwy na'r ceiliog. Mae'r ceiliog rhwng 49 a 56 cm o hyd a 93-105 cm ar draws yr adenydd. Er fod y mesuriadau yma yn weddol debyg i iâr Gwalch Glas, mae'r Gwalch Marth yn edrych yn aderyn mwy. Mae'r iâr yn fwy o lawer, 58-64 cm o hyd a 108-127 cm ar draws yr adenydd, tua'r un faint a Bwncath.

Credir fod y Gwalch Marth wedi diflannu o Gymru erbyn y 19eg ganrif, ond fod adar wedi eu rhyddhau yn ddiweddarach gan hebogwyr a'r rheini wedi ail-sefydlu'r boblogaeth. Mae wedi manteisio ar y fforestydd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth, sy'n cynnig digon o le i nythu, ac mae'n debyg fod tua can pâr yn nythu yng Nghymru bellach, a'r nifer yn cynyddu.