Gwybedog Brith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ar:خاطف الذباب الأبقع
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn newid: ar:خطاف الذباب أبقع
Llinell 30: Llinell 30:


[[an:Ficedula hypoleuca]]
[[an:Ficedula hypoleuca]]
[[ar:خاطف الذباب الأبقع]]
[[ar:خطاف الذباب أبقع]]
[[ba:Ала себен турғайы]]
[[ba:Ала себен турғайы]]
[[bg:Жалобна мухоловка]]
[[bg:Жалобна мухоловка]]

Fersiwn yn ôl 17:46, 5 Gorffennaf 2012

Gwybedog Brith
Ceiliog Gwybedog Brith
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Ficedula
Rhywogaeth: F. hypoleuca
Enw deuenwol
Ficedula hypoleuca
(Pallas, 1764)

Aderyn sy'n aelod o deulu'r Gwybedogion yw'r Gwybedog Brith (Ficedula hypoleuca). Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar draws y rhan fwyaf i Ewrop a gorllewin Asia.

Mae'r Gwybedog Brith yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara. Ceir pedwar rhywogaeth o Wybedogion Ficedula yn y rhan yma o'r byd, ac mewn rhai gwledydd gall fod angen gofal i wahaniaethu rhyngddynt. Mae'r aderyn yn 12-13 cm. o hyd, ac mae'r ceiliog yn aderyn du a gwyn tarawiadol; du ar y cefn, gwyn ar y bol a chyda darn gwyn amlwg ar yr adenydd, tra bod gan yr iâr frown golau yn lle du ar y cefn.

Adeiledir y nyth mewn coedydd, ac mae'n arbennig o hoff o goedydd derw, a choedydd lle nad oes llawer o dyfiant islaw'r coed. Adeiledir y nyth mewn tyllau yn y coed neu mewn blychau nythu lle darperir y rhain.

Ystyrir y Gwybedog Brith yn un o adar nodweddiadol Cymru, yn enwedig yn y coedydd derw sy'n tyfu ar y llethrau.

Iâr ar y nyth