Morffoleg (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: mk:Морфологија (лингвистика) |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn newid: fa:تکواژشناسی |
||
Llinell 38: | Llinell 38: | ||
[[et:Morfoloogia]] |
[[et:Morfoloogia]] |
||
[[eu:Morfologia (hizkuntzalaritza)]] |
[[eu:Morfologia (hizkuntzalaritza)]] |
||
[[fa: |
[[fa:تکواژشناسی]] |
||
[[fi:Morfologia]] |
[[fi:Morfologia]] |
||
[[fr:Morphologie (linguistique)]] |
[[fr:Morphologie (linguistique)]] |
Fersiwn yn ôl 21:02, 3 Gorffennaf 2012
Mewn ieithyddiaeth, morffoleg yw'r astudiaeth o adeiladwaith geiriau, am y rhyngwyneb rhwng ffonoleg a chystrawen. Mae cydrannau yn eiriau, sy'n cael eu hadnabod fel morffemau.
Gwahaniaethir rhwng morffoleg ffurfdroadol a morffoleg darddiadol. Mae morffoleg ffurfdroadol yn ymdrin â sut mae geiriau'n newid eu siâp i fynegi nodweddion gramadegol megis rhif (unigol neu luosog) a chyflwr mewn enwau, neu amser (presennol neu gorffennol) a pherson mewn berfau. Mae morffoleg darddiadol ar y llaw arall yn ymdrin â sut mae morffemau yn clymu wrth ei gilydd i fynegi gwahaniaethau geirfaol, fel, er enghraifft, y gellir creu ansoddeiriau yn y Gymraeg drwy ychwanegu'r olddodiad -og at fôn enw, megis haul + -og > heulog.
Fel arfer, mae morffemau ffurfdroadol yn digwydd yn agosach at fôn gair na morffemau tarddiadol. Gwelir hyn yn y Gymraeg mewn ffurf megis lleihaodd, sy'n cynnwys tair morffem, llai + -ha- 'peri' + -odd 'trydydd unigol gorffennol'. Morffem darddiadol yw -ha- sy'n creu berf yn golygu 'peri i fod yn' allan o ansoddair, a morffem ffurfdroadol yw -odd gan ei bod hi'n mynegi nodwedd ramadegol, amser gorffennol. Mae'r drefn yn yr achos hwn felly yn adlewyrchu'r tueddiad cyffredinol mewn iaith.