Tylluan Wen (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
lauragibbs123@googlemail.com |
|||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
== Cynllun == |
== Cynllun == |
||
Mae Martha/Eirlys yn dychwelyd i'r ardal lle ganed hwy i ddial ar Ifor Preis, ei chyn prifathro, am farwolaeth ei thad. Mae h'n gorfodi Ifor Preis i odinebu ar ei wraig ffyddlon (Meri) ac yn codi cywilydd ar y ddau, wrth iddi gyhoeddi ei pherthynas |
Mae Martha/Eirlys yn dychwelyd i'r ardal lle ganed hwy i ddial ar Ifor Preis, ei chyn prifathro, am farwolaeth ei thad. Mae h'n gorfodi Ifor Preis i odinebu ar ei wraig ffyddlon (Meri) ac yn codi cywilydd ar y ddau, wrth iddi gyhoeddi ei pherthynas ag Ifor o flaen eu holl ffrindiau. Gwnaeth Ifor Preis, yn gandryll, ceisio ei thagu cyn ei gollwng. Nawr mae Martha yn dial am farwolaeth ei thad trwy daro Ifor Preis ar ei ben gyda'i thelyn. Gwelodd merch Ifor Preis, sef Gwen, y llofruddied, a rhedeg i ganol yr heol. I achub bywyd Gwen mae Martha'n aberthu ei hunan i wthio Gwen allan o'r ffordd. |
||
Newidiodd Martha ei enw o Eirlys i wneud yn siŵr byddai neb yn ei adnabod, ond erbyn y diwedd mae hen gogyddes yr ysgol, Mrs Rowlands, yn darganfod pwy ydy wrth iddi ymweld â bedd ei thad. Yn ogystal â Mrs Rowlands, mae Roger, sef cyn disgybl yn yr ysgol, yn darganfod pwy ydy wrth iddo weld hen lun ysgol. |
Newidiodd Martha ei enw o Eirlys i wneud yn siŵr byddai neb yn ei adnabod, ond erbyn y diwedd mae hen gogyddes yr ysgol, Mrs Rowlands, yn darganfod pwy ydy wrth iddi ymweld â bedd ei thad. Yn ogystal â Mrs Rowlands, mae Roger, sef cyn disgybl yn yr ysgol, yn darganfod pwy ydy wrth iddo weld hen lun ysgol. |
Fersiwn yn ôl 20:15, 2 Gorffennaf 2012
Delwedd:5023794008750 large.jpg Clawr y Ffilm | |
---|---|
Cynhyrchydd | Ffilmiau'r Nant |
Ysgrifennwr | Angharad Jones |
Serennu | Sian James John Ogwen Betsan Llwyd Maldwyn John |
Cerddoriaeth | Sian James (Telyn) |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Ffilmiau'r Nant / S4C |
Dyddiad rhyddhau | 1996 |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Ffilm a gynhyrchwyd yn 1996 gan Ffilmiau'r Nant ar gyfer S4C yw Tylluan Wen. Addasiad o'r nofel Y Dylluan Wen gan Angharad Jones yw'r ffilm.
Mae'r ffilm hon cael ei gwylio gan bobl ifanc gan ei bod ar faes llafur cwrs Cymraeg Llên TGAU (CBAC).
Cynllun
Mae Martha/Eirlys yn dychwelyd i'r ardal lle ganed hwy i ddial ar Ifor Preis, ei chyn prifathro, am farwolaeth ei thad. Mae h'n gorfodi Ifor Preis i odinebu ar ei wraig ffyddlon (Meri) ac yn codi cywilydd ar y ddau, wrth iddi gyhoeddi ei pherthynas ag Ifor o flaen eu holl ffrindiau. Gwnaeth Ifor Preis, yn gandryll, ceisio ei thagu cyn ei gollwng. Nawr mae Martha yn dial am farwolaeth ei thad trwy daro Ifor Preis ar ei ben gyda'i thelyn. Gwelodd merch Ifor Preis, sef Gwen, y llofruddied, a rhedeg i ganol yr heol. I achub bywyd Gwen mae Martha'n aberthu ei hunan i wthio Gwen allan o'r ffordd.
Newidiodd Martha ei enw o Eirlys i wneud yn siŵr byddai neb yn ei adnabod, ond erbyn y diwedd mae hen gogyddes yr ysgol, Mrs Rowlands, yn darganfod pwy ydy wrth iddi ymweld â bedd ei thad. Yn ogystal â Mrs Rowlands, mae Roger, sef cyn disgybl yn yr ysgol, yn darganfod pwy ydy wrth iddo weld hen lun ysgol.
Gwahaniaethau yn y ffilm a'r nofel
Mae rhai manylion wedi cael eu newid yn y ffilm ac yn y nofel. Newidiadau fel - dim ffilmio yn yr ysgol, a nid yw Martha yn dod o America, yw oherwydd costiau cyllideb. Hefyd, mae’r enwau yn newidiadau yn y ffilm, mae Myfi yn dod yn Martha, Ifor Gruffydd yn dod yn Ifor Price. Hefyd mae Meri ac Ifor yn cael babi yn y ffilm, ac nid oes sioe drama yn y ffilm. Oherwydd nid oes drama yn y ffilm, nid oes yna rheswm i fod yn yr ysgol, ac mae gwarchod y plant yn esgus da i Martha gwario amser gyda’r teulu. Rhywbeth arall sydd wedi cael ei newid yw, yn y nofel mae Ifor yn cael diddordeb rhamantaidd yn Martha, tra yn y ffilm, mae Martha yn ymddangos i fod yn gorfodi Ifor i gael y perthynas.
Peth arall yw bod Martha ei hun yn marw yn y ffilm, yn y nofel mae hi’n dianc ar ol y llofruddiaeth. Mae’r ffordd mae hi’n llofruddio fe yn gwahanol hefyd, y ffilm – taflu telyn at ben Ifor, y nofel – yn chwipio fe i farwolaeth. Yn amlwg mae’r ffilm yma wedi cael ei addasi ar gyfer pobl o’r oed 14 ac uwchben, gan fod e ar gyfer cwricwlwm y fyfyrwyr TGAU Cymraeg.
Cymeriadau ac Actorion
Cymeriad | Actorion |
---|---|
Martha/Eirlys | Sian James |
Ifor Preis | John Ogwen |
Meri Preis | Betsan Llwyd |
Roger | Maldwyn John |
Symbolaeth
Mae yna llawer o symbolaeth yn y ffilm. Rydyn ni’n gweld ol-fflachiadau o Eirlys yn cael y gansen, mae’r prifathro yn gwisgo fantell, ac mae Martha yn cyrraedd yn gwisgo mantell, yn dangos bod hi nawr yn rheoli. Yn hwyrach mae yna saethiad o Ifor Price yn gwisgo ei fantell yn preifat, yn dangos sut mae e eisiau adennill rheolaeth. Mewn rhannau ble mae Martha eisiau fod yn arbennig o fygythiol mae hi’n gwisgo coch. Rydyn ni’n weld bod yna llawer o gerddoriaeth ailadroddus yn y ffilm, mae hyn yn dangos bod rhywbeth o’r gorffennol yn ailadrodd ei hun ac mae’n adeiladu tensiwn i uchafbwynt ar y diwedd. Hefyd mae yna bethau enwedig fel y bariau ar y llong yn cyfleu y caethiwed mae hi’n ei deimlo.