Brwydr Plassey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Clive a Mir Jafar ar ôl '''Brwydr Plassey''' Ymladdwyd '''Brwydr Plassey''' ar 23 Mehefin, 1757, ger tref Plassey ym Mengal, gogl...
 
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: bn, de, es, fr, gl, ja, sv, ur, zh
Llinell 11: Llinell 11:
[[Categori:1757]]
[[Categori:1757]]


[[bn:পলাশীর যুদ্ধ]]
[[de:Schlacht bei Plassey]]
[[en:Battle of Plassey]]
[[en:Battle of Plassey]]
[[es:Batalla de Plassey]]
[[fr:Bataille de Plassey]]
[[gl:Batalla de Plassey]]
[[ja:プラッシーの戦い]]
[[sv:Slaget vid Plassey]]
[[ur:جنگ پلاسی]]
[[zh:普拉西战役]]

Fersiwn yn ôl 22:38, 20 Mawrth 2007

Clive a Mir Jafar ar ôl Brwydr Plassey

Ymladdwyd Brwydr Plassey ar 23 Mehefin, 1757, ger tref Plassey ym Mengal, gogledd-ddwyrain India. Curodd y lluoedd Prydeinig dan y cadfridog Robert Clive ("Cllive o India") fyddin Surajah Dowlah, Nawab Bengal.

Roedd y nawab ac eraill wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Prydeinwyr a Chwmni Dwyrain India gan gipio Calcutta. Ail-gipiodd Clive y ddinas honno, lle carcharwyd tua chant o bobl yn y "Twll Du" enwog, o ddwylo'r gwrthryfelwyr cyn mynd yn ei flaen i gwrdd â'r gwrthryfelwyr ger Plassey. Un o'r rhesymau am ei fuddugoliaeth oedd brad rhai o gadfridogion y nawab dan arweinyddiaeth Mir Jafar a aethant drosodd i'r ocht fuddugol yn ystod y frwydr.

Canlyniad pwysicaf y frwydr oedd cadarnhau ac ymestyn rheolaeth Prydain ar ddwyrain India, yn wyneb cystadleuaeth gan Ffrainc (roedd Prydain a Ffrainc yn ymladd y Rhyfel Saith Mlynedd yn Ewrop yr adeg honno yn ogystal). Gosodwyd un o gonglfeini'r Ymerodraeth Brydeinig, sef reolaeth ar is-gyfandir India i gyd erbyn diwedd y 18fed ganrif.