Mongolwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rezabot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ur:منگول
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ckb:مەغۆل
Llinell 48: Llinell 48:
[[bs:Mongoli]]
[[bs:Mongoli]]
[[ca:Mongols]]
[[ca:Mongols]]
[[ckb:مەغۆل]]
[[cs:Mongolové]]
[[cs:Mongolové]]
[[de:Mongolen]]
[[de:Mongolen]]

Fersiwn yn ôl 07:32, 1 Gorffennaf 2012

Mae'r Mongolwyr yn grŵp ethnig sy'n dod yn wreiddiol o'r ardal sydd rwan yn Fongolia, rhannau o Rwsia a gogledd-orllewin Tsieina, yn enwedig Mongolia Fewnol. Heddiw mae tua 8.5 miliwn o Fongolwyr yn siarad yr iaith Fongoleg. Mae nhw'n cael eu cynnwys yn un o'r 56 cenedl sydd yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Mae tua 2.3 miliwn o Fongolwyr yn byw ym Mongolia, 4 miliwn ohonyn nhw ym Mongolia Fewnol (talaith yn Tsieina), a 2 filiwn yn y taleithiau Tsieinëaidd cyfagos. Yn ogystal ceir nifer o grwpiau ethnig yng Ngogledd Tsieina sy'n perthyn i'r Mongolwyr, sef y Daur, Buryat, Evenk, Dorbod, a'r Tuvin.

Ymlediad y Mongoliaid

Ceisiodd y Mongolwyr oresgyn Siapan ddwywaith. Y tro cyntaf, yn 1281, cafodd y llynges oresgynol ei dinistro'n llwyr mewn storm mawr (y kamikaze neu 'wynt dwyfol'). Yr ail dro, cyrhaeddodd milwyr Mongoliaidd yr ynysoedd, ond fe newynodd nhw am eu bod wedi colli eu cyflenwadau mewn storm arall - roedd y milwyr a samurai Siapanaidd yn medru trechu nhw felly.

Roedd buddugoliaethau'r Mongolwyr yn cynnwys goresgyn ynys Java a rhan o dde-ddwyrain Asia (Fietnam heddiw). Ond oedd y tywydd trofannol yn anaddas i'r gwŷr meirch, a llwyddodd Java i aros yn annibynnol yn y diwedd.

Ymgyrchoedd eraill

Hanes cyfoes

Yn 1921, gwrthryfelodd Mongolia Allanol gyda cymorth o Rwsia, i greu'r Fongolia gyfoes. Sefydlwyd llywodraeth Gomiwnyddol yn 1924. Amddiffynnodd yr Undeb Sofietaidd Fongolia yn erbyn ei goresgyn gan Siapan. Cefnogodd Mongolia yr Undeb Sofietaidd yn ei ffrae gyda Tsieina yn 1958. Yn 1990 cafodd y llywodraeth Gomiwnyddol ei dymchwel, a sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd yn 1992.

Mae Mongolia Fewnol yn dalaith ymreolaethol yn Tsieina. Mae llawer o bobl Han o Tsieina wedi symud yno, a nhw yw'r grŵp ethnig pwysicaf heddiw. Ni raid i'r Mongolwyr ddilyn polisi un plentyn y llywodraeth, ac mae llywodraeth GPT yn cefnogi'r iaith Fongoleg yn swyddogol.

Mae gan Rwsia rhai ardaloedd ymreolaethol Mongolaidd, e.e. y Buryatau: