Vanessa Hudgens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ko:바네사 허진스
Chobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.5) (robot yn newid: ko:버네사 허진스
Llinell 160: Llinell 160:
[[ja:ヴァネッサ・ハジェンズ]]
[[ja:ヴァネッサ・ハジェンズ]]
[[kn:ವನೆಸ್ಸಾ ಹಡ್ಜೆನ್ಸ್]]
[[kn:ವನೆಸ್ಸಾ ಹಡ್ಜೆನ್ಸ್]]
[[ko:바네사 허진스]]
[[ko:버네사 허진스]]
[[la:Vanessa Anna Hudgens]]
[[la:Vanessa Anna Hudgens]]
[[lv:Vanesa Hadžensa]]
[[lv:Vanesa Hadžensa]]

Fersiwn yn ôl 07:45, 29 Mehefin 2012

Vanessa Hudgens
GalwedigaethCantores, Actores

Mae Vanessa Anne Hudgens (ganed 14 Rhagfyr, 1988) yn actores a chantores Americanaidd. Cafodd ei rôl fawr gyntaf yn 2004 fel Tintin yn y Thunderbirds ac yna chwaraeodd ran Gabriella Montez yn y gyfres o ffilmiau High School Musical.

Ar ôl yr High School Musical cyntaf, dilynodd Hudgens yrfa gerddorol, gan ryddhau ei halbwm cyntaf ar y 26ain o Fedi, 2006. Aeth yr albwm i rif 24 yn y siart Americanaidd, gan werthu dros 34,000 o gopïau yn ystod yr wythnos gyntaf. Dychwelodd i'w rôl fel Gabriella Montez yn High School Musical 2 a High School Musical 3: Senior Year.

Rhyddhaodd Hudgens ei halbwm "Identified" yn yr Unol Daleithiau ar y 1af o Orffennaf, 2008 ac aeth i rif 23 yn y siart, gan werthu 22,000 o gopïau yn ystod yr wythnos gyntaf. Bydd Hudgens yn portreadu cymeriad Sam yn y ffilm Bandslam, ar ddiwedd mis Gorffennaf, 2009.

Ei Bywyd Cynnar

Ganwyd Hudgens yn Salinas, Califfornia, yn ferch i Gina (née Guangco) a Greg Hudgens. Mae ganddi chwaer, Stella Teodora Hudgens (ganed 13 Tachwedd, 1995, San Diego). Mae tad Hudgens yn Americanwr o dras Gwyddelig ac Americanaidd Brodorol. Mae ei mam, a dyfodd i fyny ym Manila yn Pilipino o dras Filipino, Sbaeneg a Tseiniaidd. Derbyniodd addysg gartref ar ôl Blwyddyn saith yn yr Orange County High School of the Arts.

Pan oedd yn wyth mlwydd oed, perfformiodd Hudgens mewn sioeau cerdd, a bu mewn cynhyrchiadau lleol o Carousel, The Wizard of Oz, The King and I, The Music Man, a Cinderella, ymysg eraill. Symudodd Hudgens i Los Angeles ar ôl iddi ennill clyweliad ar gyfer Old Navy nol yn 2005. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf Thirteen as Noel ac yna fel Tintin yn y ffilm Thunderbirds (2004). Mae ei pherfformiadau'n cynnwys rôlau ar Quintuplets, Still Standing, The Brothers García, Drake & Josh a The Suite Life of Zack & Cody.

Ffilmograffiaeth

Ffilmiau

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2003 Thirteen Noel Ffilm Gyntaf
2004 Thunderbirds Tintin Ffilm Gyffro Gwyddonias
2006 High School Musical Gabriella Montez Gwnaed gan y Disney Channel.
2007 High School Musical 2 Gwnaed gan y Disney Channel.
2008 High School Musical 3: Senior Year Rhyddhawyd gan Walt Disney Pictures 24 Hydref 24, 2008.
2009 Bandslam Sam Cwblhawyd
2010 Sucker Punch Blondie Ôl-gynhyrchu

Ymddangosiadau Arbennig

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2002 Still Standing Tiffany Yn y rhaglen "Still Rocking"
The Brothers Garcia Lindsey/Merch dal 2 raglen
Robbery Homicide Division Nicole yn 10 Yn y rhaglen "Had"
2005 Drake & Josh Rebbecca Yn y rhaglen "Little Sibling"
Quintuplets Carmen Yn y rhaglen "Coconut Kapow"
2006 Disney Channel Games Ei Hun Rhaglen arbennig i'r Disney Channel
The Suite Life of Zack & Cody Corrie 4 rhaglen, gwnaed gan y Disney Channel.

Disgograffiaeth

Albymau Stiwdio
Traciau Sain
Teithiau Cyngerdd
  • 2006/2007: High School Musical: The Concert
  • 2008: Taith Haf Identified

Gwobrau ac Enewbiadau

Blwyddyn Gwobrau Categori Canlyniad
2006 Gwobrau Imagen Foundation Awards "Yr Actores Orau - Teledu" Enwebwyd[1]
Gwobrau Teen Choice "Choice TV Chemistry" (rhannwyd gyda Zac Efron) Buddugol[2]
2007 "Choice Music: Artist Benywaidd Newydd" Buddugol[3]
Gwobr Artist Ifanc Perfformiad Gorai gan Actores Ifanc mewn Ffilm Deledu, Cyfres fer neu Raglen Arbennig (Comedi neu Ddrama Enwebwyd[4]
2008 Gwobrau Teen Choice "Choice Hottie" Buddugol[5]
2009 Gwobrau Kids Choice "Hoff Seren Ffilm Benywaidd" Nodyn:Nominated[6]

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 21st Annual Imagen Awards Finalists (2006). Adalwyd 2008-09-24.
  2. Stephen M. Silverman (August 21, 2006). Nick, Jessica Dodge Run-In yn Teen Awards. People. Adalwyd 2008-09-23.
  3. Jennifer McDonnell (July 31, 2007). Enillwyr Gwobrau Teen Choice 2007. Montreal Gazette. Adalwyd 2008-09-23.
  4. 28th Gwobrau Blynyddol Artistiaid Ifanc (2007). Adalwyd 2008-09-23.
  5. Teen Choice (2008). Adalwyd 2008-09-23.
  6. Kids Choice (2009). Adalwyd 2009-02-07.