Joely Richardson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ar:جولي ريتشاردسون |
Chobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: ko:조엘리 리처드슨 |
||
Llinell 152: | Llinell 152: | ||
[[it:Joely Richardson]] |
[[it:Joely Richardson]] |
||
[[ja:ジョエリー・リチャードソン]] |
[[ja:ジョエリー・リチャードソン]] |
||
[[ko:조엘리 리처드슨]] |
|||
[[la:Joely Richardson]] |
[[la:Joely Richardson]] |
||
[[nl:Joely Richardson]] |
[[nl:Joely Richardson]] |
Fersiwn yn ôl 07:04, 29 Mehefin 2012
Joely Richardson | |
---|---|
Galwedigaeth | Actores |
Actores Seisnig sydd yn fwyaf enwog am ei rôl fel Julia McNamara yn y gyfres deledu Nip/Tuck ydy Joely Kim Richardson (ganed 9 Ionawr 1965).
Ei bywyd cynnar
Cafodd ei geni yn Llundain i deulu a weithiai ym myd y theatr. Mae'n ferch i'r actores Vanessa Redgrave a'r cyn-gyfarwyddwr Tony Richardson. Mae'n wyres i Syr Michael Redgrave. Bu farw ei chwaer, yr actores Natasha Richardson tra'n sgïo yn 2009 a thrwy ei chwaer, mae Joely Richardson yn chwaer yng nghyfraith i'r actor Liam Neeson. Mae hi hefyd yn nith i Lynn Redgrave a Corin Redgrave ac yn gefnither i'r actores Jemma Redgrave. Ymddangosodd Joely Richardson fel actor cefnogol pan oedd yn dair oed yn y fersiwn 1968 o The Charge of the Light Brigade a gyfarwyddwyd gan ei thad.
Derbyniodd Richardson a'i chwaer Natasha eu haddysg cynnar yn Ysgol San Paul i Ferched yn Hammersmith, Llundain. Pan oedd yn 14 oed, derbyniodd ysgoloriaeth tenis a symudodd i ysgol breswyl Ysgol Denis Harry Hopman yn Tampa, Fflorida. Ym 1983, graddiodd o Ysgol Thacher, Califfornia a dychwelodd i Lundain i astudio yn RADA.