Titw Cynffonhir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ba:Мамыҡас
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ar:قرقف طويل الذيل
Llinell 26: Llinell 26:


[[als:Schwanzmeise]]
[[als:Schwanzmeise]]
[[ar:قرقف طويل الذيل]]
[[ba:Мамыҡас]]
[[ba:Мамыҡас]]
[[be:Сініца-апалоўнік]]
[[be:Сініца-апалоўнік]]

Fersiwn yn ôl 06:26, 27 Mehefin 2012

Titw Cynffon-hir
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Aegithalidae
Genws: Aegithalos
Rhywogaeth: A. caudatus
Enw deuenwol
Aegithalos caudatus
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Titw Cynffon-hir (Aegithalos caudatus) yn aelod o deulu'r Aegithalidae, ac felly yn perthyn i deulu gwahanol i ditwod megis y Titw Mawr a'r Titw Tomos Las sy'n perthyn i'r Paridae.

Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia. Fel rheol mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yng ngorllewin Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn. Gellir ei adnabod yn hawdd, yn enwedig o'r gynffon hir - mae'r aderyn tua 13-15cm o hyd ond mae'r gynffon yn 7-9cm o hyd a'r corff dim ond tua 6cm. Mae'n ddu a brown ar y cefn, coch neu binc ar yr ochrau a gwyn ar y bol, gyda cap gwyn ar y pen. Mae'r is-rywogaeth yng ngogledd Ewrop, (A. c. caudatus), ychydig yn wahanol, gyda'r pen yn wyn i gyd a'r ochrau'n wyn.

Fel rheol gellir ei weld mewn heidiau o rhyw 6 i 15 aderyn, weithiau fwy, yn symud yn ddi-baid o un goeden i'r llall. Adeiledir y nyth mewn coeden neu lwyd gan ddefnyddio gwe pryf copyn i ddal y nyth at ei gilydd. Mae'n dodwy rhwng 6 a 12 wy.

Mae'r Titw Cynffon-hir yn aderyn cyffredin yng Nghymru. Gall ei niferoedd ddisgyn yn sylweddol os ceir gaeaf anarferol o galed, ond buan yr adferir ei nifer.