Telor y Coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: ba:Сипылдаҡ төйөт |
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ar:نقشارة الغاب |
||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
[[Categori:Teloriaid]] |
[[Categori:Teloriaid]] |
||
[[ar:نقشارة الغاب]] |
|||
[[ba:Сипылдаҡ төйөт]] |
[[ba:Сипылдаҡ төйөт]] |
||
[[bg:Буков певец]] |
[[bg:Буков певец]] |
Fersiwn yn ôl 06:20, 27 Mehefin 2012
Telor y Coed | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Sylviidae |
Genws: | Phylloscopus |
Rhywogaeth: | P. sibilatrix |
Enw deuenwol | |
Phylloscopus sibilatrix (Bechstein, 1793) |
Mae Telor y Coed (Phylloscopus sibilatrix) yn aelod o deulu'r Teloriaid ac yn aderyn cyffredin trwy ogledd a chanolbarth Ewrop ac mewn rhan o orllewin Asia.
Ceir Telor y Coed mewn coedwigoedd o wahanol fathau, lle mae'r goedwig yn weddol agored ond gydag ychydig o dyfiant is ar gyfer nythu. Mae'n aderyn mudol ac yn treulio'r gaeaf yn Affrica. Adeiledir y nyth yn agos i'r llawr mewn llwyni. Pryfed yw ei brif fwyd.
Mae yn aderyn ychydig yn fwy nag amrwyw o'r aelodau cyffredin eraill o'r genws Phylloscopus, megis y Siff Saff (P. collybita), rhwng 11 a 12.5 cm o hyd. Gellir ei adnabod trwy ei fod yn fwy gwyn ar y bol ac yn fwy melyn ar y fron, gyda llinell felen uwchben y llygad.
Yn aml y dull hawsaf o'i adnabod yw'r gân. Mae dwy fath o gân, syn aml i'w clywed gyda'i gilydd. Mae un yn swn fel chwibanu, "piiiiw, piiiiw, piiiiw" a'r llall yn gyfres o nodau sy'n disgyn.
Yn yr haf mae Telor y Coed yn aderyn pur gyffredin yng Nghymru, lle mae'n un o adar nodweddiadol y coedwigoedd derw ar y llethrau gyda'r Tingoch a'r Gwybedog Brith.