Afon Elwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gramadeg
B gramadeg
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Afon Elwy''' yn afon yng ngogledd [[Cymru]] sy'n aberu ag [[Afon Clwyd]]. Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref [[Llanrwst]]. Fodd bynnag dim ond o bentref [[Llangernyw]] ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn Llangernyw mae tair afonig, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn ymuno i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref [[Llanfair Talhaiarn]] ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae [[Afon Aled]], sy'n tarddu o [[Llyn Aled|Lyn Aled]] yn ymuno â hi.
Mae '''Afon Elwy''' yn afon yng ngogledd [[Cymru]] sy'n aberu yn [[Afon Clwyd]]. Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref [[Llanrwst]]. Fodd bynnag dim ond o bentref [[Llangernyw]] ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn Llangernyw mae tair afonig, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn ymuno i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref [[Llanfair Talhaiarn]] ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae [[Afon Aled]], sy'n tarddu o [[Llyn Aled|Lyn Aled]] yn ymuno â hi.


Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy [[Llanelwy|Lanelwy]]. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a [[Rhuddlan]], ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.
Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy [[Llanelwy|Lanelwy]]. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a [[Rhuddlan]], ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.

Fersiwn yn ôl 14:13, 19 Mawrth 2007

Mae Afon Elwy yn afon yng ngogledd Cymru sy'n aberu yn Afon Clwyd. Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref Llanrwst. Fodd bynnag dim ond o bentref Llangernyw ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn Llangernyw mae tair afonig, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn ymuno i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref Llanfair Talhaiarn ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae Afon Aled, sy'n tarddu o Lyn Aled yn ymuno â hi.

Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy Lanelwy. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a Rhuddlan, ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.

Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Elwy o ddiddordeb archaeolegol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r Palaeolithig a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn Neanderthal mewn ogof ym Mhont-newydd.