Crefydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn newid: ku:Ol |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: vep:Religii |
||
Llinell 220: | Llinell 220: | ||
[[uz:Din]] |
[[uz:Din]] |
||
[[vec:Rełijon]] |
[[vec:Rełijon]] |
||
[[vep:Religii]] |
|||
[[vi:Tôn giáo]] |
[[vi:Tôn giáo]] |
||
[[vo:Rel]] |
[[vo:Rel]] |
Fersiwn yn ôl 20:30, 24 Mehefin 2012
Cyfundrefn o ffydd ac addoliad neu gred yw crefydd. Bodolasai crefyddau cyn hired â'r hil ddynol; nid oes yna adeg a ŵyr amdani yn hanes y ddaear a chrefydd ddim mewn bodolaeth yn ei hystod. Credir fod pump chweched ran o boblogaeth y ddaear yn ystyried eu hunain yn grefyddol.
Hanes
Datblygiad crefydd
Chwe phrif grefydd y byd
Crefyddau Abrahamig
- Prif: Crefyddau Abrahamig
Dyma'r grŵp mwyaf o grefyddau gyda 3.8 biliwn o ddilynwyr yn fyd-eang.
Cristnogaeth
- Prif: Cristnogaeth
Mae Cristnogaeth neu Gristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Iesu Grist. Gosodir allan prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Testament Newydd, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Roeg yn wreiddiol ac sy'n rhan, gyda'r Hen Destament Iddewig (ac weithiau'r Apocryffa), o'r Beibl. Mae'r enw 'Crist' yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos), sy'n golygu "yr Eneiniog".
Iddewiaeth
- Prif: Iddewiaeth
Crefydd undduwiaeth yw Iddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang.
Islam
- Prif: Islam
Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair 'Islam' yw "ymostyngiad i ewyllys Duw" (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grëwyd ganddo. Mae'r gair yn gyfuniad o ddau air, sef salām sy'n golygu "tangnefedd" a'r gair slm sy'n golygu "ymostyngiad." Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw."
Paganiaeth
- Prif: Paganiaeth
Crefydd lle addolir Duw(iau) a/neu Dduwies(au) yw Paganiaeth, sydd hefyd yn ffurf o amldduwiaeth. Y mae'n grefydd sydd yn credu mewn natur a phweroedd naturiol. Un o lwybrau modern o Baganiaeth yw Wica.
Crefyddau dwyreiniol
- Prif: Crefyddau dwyreiniol
Siciaeth
- Prif: Siciaeth
Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhiaeth sydd yn seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Mae'n un o brif grefyddai'r byd gyda dros 23 miliwn o ddilynwyr.
Bwdhaeth
- Prif: Bwdhaeth
Crefydd ddi-dduw yn ei hanfod yw Bwdhaeth neu "Bwdïaeth." Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, ac annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif CC. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn y pumed ganrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny. Er ei fod yn grefydd neu athroniaeth ddi-dduw, ceir nifer o "dduwiau" a bodau goruwchnaturiol eraill ym Mwdhaeth Mahayana ("Y Cerbyd Mawr"), e.e. ym Mwdhaeth Tibet.
Hindŵaeth
- Prif: Hindŵaeth
Hindŵaeth yw crefydd gynhenid is-gyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw.