Oesoffagws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: wa:Buzea d' avala |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn newid: ku:Soricik |
||
Llinell 74: | Llinell 74: | ||
[[kk:Өңеш]] |
[[kk:Өңеш]] |
||
[[ko:식도]] |
[[ko:식도]] |
||
[[ku: |
[[ku:Soricik]] |
||
[[la:Oesophagus]] |
[[la:Oesophagus]] |
||
[[lbe:Дукралул ххуллу]] |
[[lbe:Дукралул ххуллу]] |
Fersiwn yn ôl 12:48, 20 Mehefin 2012
Pibell allan o gyhyr a geir mewn rhai anifeiliaid ydyw'r oesoffagws, y sefnig, y bibell fwyd neu'r llwnc (Saesneg: Esophagus/Oesophagus). Mae bwyd yn cael ei basio drwyddo ar ei daith o'r geg i'r stumog. O'r Lladin y daw'r gair a hwnnw yn ei dro'n fenthyciad o'r Roeg oisophagos (οισοφάγος), sef "mynediad y bwyd". Mewn bodau dynol caiff ei leoli ar yr un lefel â fertebra C6 ac mae'n 25-30 cm o hyd, gan ddiweddu yng ngheg y stumog.
Mae iddo dair rhan: y rhan yddfol, thorasig ac abdomenol.
Ei waith
Drwy'r broses o wringhelliad (neu beristalisis), mae bwyd yn teithio drwyddo i'r stumog. Gwringhelliad ydy'r broses o gyhyrau'n cyfangu gan leihau a gwthio'r bwyd ar ei daith. Gan nad oes ganddo leinin mwcws (yn wahanol i'r stumog) gall asid y stumog gnoi i mewn iddo gan ei greithio. I fod yn fanwl gywir, mae'n cysylltu'r argeg (ffaryncs) sef y lle gwag hwnnw a ddefnyddir hefyd gan y system resbiradu â'r stumog ble mae'r ail ran o'r broses dreulio yn digwydd.