Hwyaden lwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: kbd:Бабыщгъуабжэ
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: he:ברווז אפור
Llinell 47: Llinell 47:
[[ga:Gadual]]
[[ga:Gadual]]
[[gl:Pato frisado]]
[[gl:Pato frisado]]
[[he:ברווז אפור]]
[[hr:Patka kreketaljka]]
[[hr:Patka kreketaljka]]
[[hu:Kendermagos réce]]
[[hu:Kendermagos réce]]

Fersiwn yn ôl 21:57, 19 Mehefin 2012

Hwyaden Lwyd
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Anas
Rhywogaeth: A. strepera
Enw deuenwol
Anas strepera
Linnaeus, 1758

Mae'r Hwyaden Lwyd (Anas strepera) yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin trwy rannau helaeth o'r byd, yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn oer, mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de i aeafu.

Hwyaden ganolig o ran maint ydyw, rhwng 46 a 56 cm o led ac 78-90 cm ar draws yr adenydd. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd, gyda'i gorff lwyd a thu ôl du amlwg, gyda gwyn ar yr adenydd. Mae'r iâr yn anoddach ei hadnabod, gan ei bod yn edrych yn debyg iawn i iâr Hwyaden Wyllt, er ei bod ychydig yn llai.

Iâr a chywion

Adeiledir y nyth mewn corsydd neu ar lannau llynnoedd. Planhigion yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed, ac mae'r oedolion yn bwyta rhywfaint o folysgiaid yn y tymor nythu. Yn y gaeaf gallant gasglu at ei gilydd yn heidiau bychain ond anaml y'i gwelir mewn heidiau mawr fel rhai o'r hwyaid eraill.

Mae'r Hwyaden Lwyd yn aderyn gweddol gyffredin ar Ynys Môn ond yn llai cyffredin mewn rhannau eraill o Gymru. Credir fod ei niferoedd yn cynyddu'n raddol.