Voortrekker: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: eu:Voortrekker |
B robot yn ychwanegu: sw:Voortrekker |
||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
[[pt:Voortrekkers]] |
[[pt:Voortrekkers]] |
||
[[sv:Voortrekkers]] |
[[sv:Voortrekkers]] |
||
[[sw:Voortrekker]] |
Fersiwn yn ôl 05:15, 19 Mehefin 2012
Defnyddir y term Voortrekker am y bobl o darddiad Iseldiraidd yn Ne Affrica a adawodd Drefedigaeth y Penrhyn rhwng 1830 a 1850, wedi i'r drefedigaeth ddod yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Symudasant tua'r gogledd, i'r ardaloedd o amgylch afon Oren, yn yr hyn a alwyd y Grote Trek ("y daith fawr").
Cyrhaeddodd rhai o'r Voortrekkers i Natal, lle gwnaethant gytundeb a Dingane, brenin y Zulu. Yn nes ymlaen, newidiodd Dingane ei feddwl, a lladdodd arweinydd y Voortrekkers, Piet Retief, a thua hanner ei ddilynwyr. Daeth Andries Pretorius yn arweinydd, a gorchfygodd Dingane ym Mrwydr Blood River yn 1838. Sefydlwyd Gweriniaeth Natalia yn 1839, ond meddiannwyd hi gan Brydain yn 1843.
Sefydlwyd nifer o weriniaethau Boer yn nhiriogaeth y Zulu, a ffurfiwyd Gweriniaeth Rydd Oren a'r Weriniaeth Dde Affricanaidd. Parhaodd y rhain hyd nes i Brydain ei meddiannu yn ystod Ail Ryfel y Boer yn 1900.
Ceir cofeb i'r Voortrekkers yn ninas Pretoria, dinas a enwyd ar ôl Andries Pretorius.