İznik: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: br:İznik
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: vi:İznik
Llinell 41: Llinell 41:
[[th:อิซนิค]]
[[th:อิซนิค]]
[[tr:İznik]]
[[tr:İznik]]
[[vi:İznik]]
[[zh:伊兹尼克]]
[[zh:伊兹尼克]]

Fersiwn yn ôl 02:00, 15 Mehefin 2012

Dinas yng ngogledd-orllewin Twrci yw İznik. Ei hen enw oedd Nicea (Groeg: Νίκαια). Mae'n enwog fel safle dau o gynghorau cynnar yr eglwys Gristnogol, Cyngor Cyntaf Nicea ac Ail Gyngor Nicea, a rhoddodd y ddinas ei henw i Gredo Nicea.

Sefydlwyd y ddinas yn 310 CC gan Antigonos I Monophthalmos. Rhwng 1204 a 1261, Nicea oedd prifddinas Ymerodraeth Nicea, a ffurfiwyd pan ymrannodd yr Ymerodraeth Fysanraidd wedi i ddinas Caergystennin gael ei chipio gan y croesgadwyr yn 1204. Yn 1261 llwyddodd Ymerodraeth Nicea i gipio Caergystennin yn ôl, ac adferwyd yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Saif y ddinas ar ochr ddwyreniniol Llyn İznik, ac fe'i hamgylchynir gan furiau 10 m o uchder, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Mae'r boblogaeth tua 15,000.

Pobl enwog