Crynoddisg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gh
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: be-x-old:Кампакт-дыск
Llinell 30: Llinell 30:
[[bat-smg:Kuompaktėnis dėsks]]
[[bat-smg:Kuompaktėnis dėsks]]
[[be:CD]]
[[be:CD]]
[[be-x-old:Кампакт-дыск]]
[[bg:Компактдиск]]
[[bg:Компактдиск]]
[[bn:কমপ্যাক্ট ডিস্ক]]
[[bn:কমপ্যাক্ট ডিস্ক]]

Fersiwn yn ôl 15:48, 14 Mehefin 2012

Crynoddisg

Disg optegol a ddefnyddir i storio data digidol yw crynoddisg, CD-ROM neu CD. Dechreuodd datblygiad y cyfrwng gan y cwmniau electroneg Philips a Sony yn 1979. Bu'n dair blynedd cyn fod y crynoddisg yn cael ei ryddhau yn 1982. Yn wreiddiol, fe'i cynlluniwyd fel cyfrwng ar gyfer storio cerddoriaeth digidol yn unig, oherwydd fod golwg y disgiau yn debyg i recordiau feinyl, ond yna addaswyd y dechnoleg i'w ddefnyddio fel dyfais storio data gwahanol megis delweddau, testun a rhaglenni. Felly, rhyddhawyd y CD-ROM ym mis Mehefin 1985, a fyddai'n dod yn brif gyfrwng ar gyfer meddalwedd cyfrifiadurol am dros ddegawd rhwng 1993 a 2005, pan ddaeth y we fyd-eang yn gryfach cyfrwng.

Ystyr "CD" ydy talfyriad o "Compact Disg" (Cryno Ddisg); ac ystyr "ROM" ydy Read Only Memory, gan nad oedd hi'n bosibl i'r defnyddiwr losgi gwybodaeth ar y ddisg fwy nag unwaith sef write-once audio and data storage (CD-R) ac yna: rewritable media (CD-RW), Video Compact Discs (VCD), Super Video Compact Discs (SVCD), PhotoCD, PictureCD, CD-i, ac Enhanced CD. Gwelodd yr Audio CD a chwaraewyr audio CD olau dydd yn gyntaf yn 1982.

Roedd y CD-ROM rhyngweithiol yn defnyddio sain, llun, ffilm, animeiddiadau "Flash" ayb ac yn rhoi cyfle i'r defnyddiwr roi mewnbwn. Oherwydd hyn, roeddent yn cael eu defnyddio llawer fel adnodd addysgol. Un o'r cyntaf yn y Gymraeg oedd y gyfres hanes honno "FfotoBanc Cymru" gan Gyhoeddiadau Sycharth.

Gweler hefyd

Dolennau allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato