Rhys Ifans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: be:Рыс Іванс
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: nn:Rhys Ifans
Llinell 96: Llinell 96:
[[ko:리스 에반스]]
[[ko:리스 에반스]]
[[nl:Rhys Ifans]]
[[nl:Rhys Ifans]]
[[nn:Rhys Ifans]]
[[no:Rhys Ifans]]
[[no:Rhys Ifans]]
[[pl:Rhys Ifans]]
[[pl:Rhys Ifans]]

Fersiwn yn ôl 22:50, 12 Mehefin 2012

Rhys Ifans
GalwedigaethActor

Actor a chanwr o Gymru yw Rhys Ifans (ganed 22 Gorffennaf 1967). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, ond symudodd y teulu i Ruthun yn Sir Ddinbych, lle cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn a'i addysg uwchradd yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Roedd ei fam, Beti Wyn, yn Brifathrawes yn Ninbych tan iddi ymddeol ar ddiwedd y 90au ac roedd Eurwyn, ei dad, yn athro cynradd ym Mwcle. Roedd ei dad yn aelod o Gwmni Drama John Owen yn Rhuthun a chafodd Rhys brentisiaeth dan adain ei dad. Cafodd hefyd gyfle tra'n ifanc i actio yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.

Yn Gymro Cymraeg, ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis Pobol y Chyff ar S4C cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.

Mae wedi perfformio yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol, Llundain ac yn Theatr Frenhinol y Gyfnewidfa, Manceinion. Bu'n brif ganwr y Super Furry Animals ar un adeg, cyn iddynt ddod i amlygrwydd. Ym Mehefin 2008 sefydlodd fand newydd o'r enw The Peth; ef yw prif ganwr y grŵp. Mae un o'u caneuon yn cyfeirio at gyn-ffrind iddo, sef Sienna Miller, a oedd i'w gweld gyda Rhys yn Rhuthun, Nadolig 2007. Cafodd y ddau datŵ gwennol ar eu garddwn chwith. ` Cafodd Radd Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yng Ngorffennaf 2007 am ei gyfraniad i'r byd ffilmiau.

Ymhlith ei ddramâu llwyfan y mae: 'Accidental Death Of An Anarchist', a berfformiwyd yn Theatr Donmar, Llundain, 2003, 'Hamlet' yn Theatr Clwyd, 'A Midsummer Night's Dream' yn Regent's Park Theatre ac 'Under Milk Wood' a 'Volpone' yn y Royal National Theatre.

Ffilmiau

Enillodd wobr BAFTA am yr Actor Gorau am ei berfformiad fel Peter Cook yn Not Only But Always.

Cysylltiad allanol

  • (Saesneg) Rhys Ifans yn y Databas Ffilmiau'r Rhyngrwyd (IMDb)
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.