Gwain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: bjn:Puki
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn newid: fa:مهبل
Llinell 65: Llinell 65:
[[es:Vagina]]
[[es:Vagina]]
[[eu:Bagina]]
[[eu:Bagina]]
[[fa:زهراه]]
[[fa:مهبل]]
[[fi:Emätin]]
[[fi:Emätin]]
[[fiu-vro:Tupp (anatoomia)]]
[[fiu-vro:Tupp (anatoomia)]]

Fersiwn yn ôl 09:00, 12 Mehefin 2012

Organau cenhedlu benywaidd
  1. tiwbiau Ffalopaidd
  2. pledren
  3. pwbis
  4. man G
  5. clitoris
  6. wrethra
  7. gwain
  8. ofari, neu wygell
  9. coluddyn mawr
  10. croth
  11. ffornics
  12. ceg y groth
  13. rectwm
  14. anws

Tiwb sy'n arwain o'r organau cenhedlu allanol i'r groth mewn mamal benywaidd yw'r wain neu'r fagina (o'r Lladin uāgīna). Ar lafar: 'cont'.

Anatomeg

Mae gwain dynes oddeutu 10cm o hir, a 25mm mewn diamedr (er fod llawer o amrywiaeth o berson i berson). Sylwer fod hyn yn fyrrach ac yn deneuach na'r phidyn cyfartalog. Mae'r wain yn hynod o hyblyg, sy'n galluogi genedigaeth a chyfathrach rywiol. Mae'n cysylltu gyda'r fwlfa ar y tu allan, a cheg y groth ar y tu fewn. Pan fo dynes yn sefyll mae'r fagina a'r groth yn ffurfio ongl o tua 45°. Lleolir agoriad y wain yn rhan ôl y fwlfa, islaw'r clitoris ac agoriad yr wrethra. Tu allan i'r wain, mae'r labia a churn frasderog a elwir Mwnt Gwener. Cochbinc yw lliw'r wain, yn debyg i bilenni mwcws mewnol eraill megis tu fewn y geg.

Mae'r chwarennau Bartholin a lleolir yn dau ben y wain yn gwlychu neu'n iro'r wain rhyw ychydig, ac mae rhywfaint o hylif yn croesi'r mur faginaidd yn ogystal (er nad oes chwarennau arno).

Mewn merched ifanc, mae'r hymen yn gorchuddio rhan o agoriad y wain, nes iddi gael ei rhwygo drwy gyfathrach rywiol, ymarfer corff brwysg, neu rhyw weithgaredd arall megis marchogaeth. Dylid nodi nad yw cyfathrach rywiol yn rhwygo'r hymen o reidrwydd, felly mae'r cysylltiad traddodiadol rhwng yr hymen a gwyryfdod (e.e. yr hen enw Cymraeg, pilen forwyn) yn ofergoel.

Swyddogaeth

O safbwynt biolegol, mae'r swyddogaethau canlynol gan y wain:

Gweithgaredd Rhywiol

A: agoriad y fagina, B: y clitoris Fe all y crynhoad o derfyniadau nerfol o gwmpas agoriad y wain darparu ymdeimlad pleserus yn ystod gweithgareddau rhywiol. Gall gweithgaredd o'r fath fod yn gyfathrach anghyfunrhyw, symyliad gyda'r dwylo neu gyda ffugbidlen. Lleolir ardal a gelwir y man-G ar fur blaen y wain, oddeutu 5cm o'r agoriad; gall rhai merched brofi pleser angerddol wrth i'r man-G cael ei gosi. Honir fod orgasm man-G yn gallu arwain at alldafliad benywaidd.

Iechyd a hylendid faginaidd

Mae'r wain yn organ sy'n llnau ei hun, ac nid oes angen triniaeth arbennig arni.

Archwilir y wain weithiau am resymau meddygol.

Ymysg yr afiechydon a all effeithio'r wain mae cancr y wain a heintiad burum.

Gweler hefyd